- Dechreuwch trwy doddi’r menyn a’r olew gyda’i gilydd, ychwanegwch y sbeisys cyfan a gadewch iddyn nhw boeri a phopio am funud cyn ychwanegu’r winwns, y sinsir a’r garlleg.
- Cymysgwch y cyfan am 10-15 munud neu nes bod y winwns wedi meddalu’n braf.
- Ychwanegwch y cig oen, ynghyd â’r holl sbeisys powdr, a throi’r cyfan yn dda am 3-4 munud.
- Nawr ychwanegwch y tomato wedi’i dorri a chymysgu’r cyfan eto am 3-4 munud.
- Cyn y gallwn ychwanegu’r sbigoglys at y cig oen, mae angen i ni ei ferwi am 2 funud. Ar ôl gwneud hynny, draeniwch ef yn dda a’i ychwanegu at y cyri cig oen, ynghyd â’r tsilis gwyrdd a’r perlysiau ffres: coriander, dil a mintys.
- Cymysgwch bopeth yn dda iawn. Dylai fod tipyn o hylif yn eich cyri o’r sbigoglys, ond os yw’n edrych ychydig yn sych, ychwanegwch gwpanaid o ddŵr neu fwy, os oes angen.
- Yna rhowch y caead arno, trowch y gwres i lawr mor isel â phosibl, a gadewch iddo goginio’n araf am 45 munud neu nes bod y cig oen yn frau. Os ydych chi’n brin o amser, gallwch ddefnyddio sosban bwysedd!
- I orffen, cymysgwch ychydig o crème fraîche neu iogwrt Groegaidd i mewn iddo. I’w fwynhau orau gyda bara naan fflwfflyd cynnes neu reis basmati.