- Ychwanegu digon o bupur a halen a Ras el Hanout dros y siancen cig oen. Rhoi ychydig o olew mewn dysgl caserôl a serio’r cig ar bob ochr tan ei fod wedi brownio, yna ychwanegu cwpan o ddŵr, ei orchuddio gyda chlawr a’i roi yn y ffwrn am 5 awr ar 110°C / 90°C ffan / Nwy ¼.
- Ar ôl 4 awr, edrych ar y cig oen a rhoi ciwb stoc cig oen yn y suddion coginio – ei adael i goginio am yr awr olaf heb y clawr.
- Mewn powlen fawr, rhoi sudd lemon, olew olewydd a thyrmerig dros y couscous. Ychwanegu dŵr berw at lefel y couscous, ei orchuddio gyda ffilm cling a’i roi naill ochr am ryw 5 munud tan i’r dŵr gael ei amsugno, yna ei gymysgu gyda fforc.
- Torri’r pupur, winwnsyn a’r courgette i mewn i giwbiau 1cm a’u ffrio tan eu bod wedi eu coginio a bod lliw da arnyn nhw. Eu hychwanegu at y couscous a chymysgu’n dda.
- Torri’r winwns bach, coriander a mintys. Cymysgu’r iogwrt naturiol a’r saws mintys gyda’i gilydd mewn powlen fach.
- I weini, rhoi’r couscous ar ochr y plat a’r siancen cig oen wrth ei ymyl. Sgleinio’r siancen gyda’r suddion coginio cyn ychwanegu’r perlysiau a’r hadau pomgranad, a’r iogwrt mintys.
Siancen Cig Oen Cymru gyda Ras el Hanout, salad couscous cynnes, pomgranad a iogwrt mintys gan Ludo Dieumegard
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 5 awr 30 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 siancen Cig Oen Cymru PGI
- 120g couscous i bob person
- Cymysgedd Ras el Hanout
- 1 pupur coch
- 1 courgette
- 1 winwnsyn
- 3 winwnsyn bach
- 1 pomgranad
- 5 llwy fwrdd iogwrt naturiol
- 1 llwy de saws mintys
- 1 llwy de tyrmerig
- 1 llwy fwrdd sudd lemon
- 1 ciwb stoc cig oen
- Llond llaw o goriander
- Llond llaw o fintys
- Olew olewydd
- Pupur a halen at eich dant