
65
Amser coginio
10
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Rhagdwymo’r popty i 220°C / 200°C ffan / Nwy 7. Mae'r amser coginio wedi'i seilio ar 1kg o gig. Mae'r amser coginio wedi'i seilio ar 1kg o gig.
- Malwch y grawn pupur mewn mortar a phestl a torrwch y teim yn fân.
- Cymysgu’r grawn pupur, mwstard, olew hadau rêp a’r teim mewn powlen, ac ychwanegu halen môr.
- Rhoi’r cig eidion mewn tun a thaenu’r gymysgedd grawn pupur drosto.
- Plicio a chwarteru’r winwns a’u gosod o gwmpas y cig eidion.
- Rhostio’r cig eidion yn y popty am 20 munud.
- Yn y cyfamser, toddi’r ciwb stoc yn y dŵr berw.
- Tynnu’r cig rhost allan o’r popty, tynnu’r winwns allan a’u rhoi o’r neilltu.
- Troi’r tymheredd i lawr i 170°C / 150°C ffan / Nwy 3.
- Arllwys y stoc o gwmpas y cig rhost.
- Gosod ffoil yn llac dros y cig eidion.
- Ei rostio yn y popty am 45 munud am gig rhost canolig/wedi ei goginio’n dda.
- Ei goginio’n hirach am gig eidion wedi ei wneud yn well.
- Gorchuddio’r cig eidion a’i adael i orffwys am 20 munud.
- Aildwymo’r winwns yn y ffwrm am 5 munud a’u gweini.
- Defnyddio’r suddion coginio i wneud grefi os hoffech chi.
