- I wneud y brisket: dilynwch ein rysáit Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Gwnewch y cytew – rhowch y blawd mewn powlen fawr, gwnewch bant yn y canol ac ychwanegwch yr wyau. Cymysgwch yn ysgafn, ychwanegwch y llaeth yn raddol a’r halen a’r pupur. Cymysgwch yn dda a’i guro er mwyn cynnwys aer.
- Gadewch i’r gymysgedd sefyll yn yr oergell am 20 munud.
- I wneud y burrito, defnyddiwch dun crwn 22cm. Arllwyswch ychydig o olew i’r tun a chynheswch yn y popty nes mae’n boeth iawn.
- Arllwyswch ddigon o gytew i’r tun i wneud haen rhyw 5cm o drwch. Gadewch iddo goginio am 15-20 munud.
- Pan fydd wedi coginio, symudwch i fwrdd torri a dechreuwch greu’r burrito. Taenwch ychydig o fayonnaise rhuddygl poeth ar y pwdin Efrog cyn ychwanegu’r cig eidion a’r nionod wedi ffrio. Ychwanegwch ychydig o grefi os dymunwch.
- Rholiwch yn ofalus i greu burrito.
Burrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 1
Bydd angen
- Brisged Cig Eidion Cymru PGI wedi’i dynnu’n ddarnau
- Winwns wedi ffrio a grefi (dewisol)
- Mayonnaise rhuddygl poeth
Cytew Pwdin Efrog:
- 2 ŵy mawr
- 150ml o laeth
- 65g o flawd
- Halen a phupur
- Olew i goginio
- Os dymunwch, gallwch ddefnyddio cymysgedd mewn pecyn a’i baratoi yn ôl y cyfarwyddiadau