
Cynhwysion
- 1 stêc sirloin cig eidion Cymreig
- 75g o reis
- Bawd o sinsir
- 3 clof o arlleg
- 1 llwy fwrdd o olew sesame
- 2 lwy fwrdd o saws soi ysgafn
- 1 llwy de o siwgr brown
- 1 winwnsyn gwanwyn
- Hanner llwy de o hadau sesame
- 1 wy
- 1 moron
- ½ ciwcymbr
- 1 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn
- 1 llwy fwrdd o olew tsili crensiog
Addurniadau:
- Hanner tsili coch
- 1 winwnsyn gwanwyn
- Leim
- 1 llwy fwrdd o kimchi
- ½ afocado
- 50g o ffa edamame
20
Amser coginio
10
Amser paratoi
1
Yn gweini
- Cymysgwch yr olew sesame, saws soi, garlleg, sinsir, winwnsyn gwanwyn, siwgr brown a hadau sesame, gorchuddiwch y stêc a'i roi o'r neilltu i farinâd
- Sleisiwch y ciwcymbr a'r foron yn fân a'u cymysgu â'r finegr gwin gwyn ac olew tsili crensiog
- Rhowch eich reis ymlaen i goginio yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn
- Griliwch y stêc i'ch hoffter a'i roi o'r neilltu i orffwys
- Berwch yr wy am 7 munud ac yna rhedeg o dan ddŵr oer i atal coginio pellach
- Mewn powlen weini, rhowch y stêc ar ben y reis ac ychwanegwch yr afocado, kimchi, picl ciwcymbr a moron, wy wedi'i ferwi'n feddal, ffa edamame, winwnsyn gwanwyn a tsili
- Mwynhewch!
