- Cynheswch 2 lwy fwrdd o olew mewn padell fawr, ddofn. Sesnwch y cig a’i ffrio mewn dau swp tan ei fod yn lliw brown dwfn. Tynnwch y cig allan o’r badell.
- Gan ddefnyddio’r un badell, ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a’r foronen a’u ffrio am funud neu ddau.
- Rhowch y cig yn ôl yn y badell ac ychwanegu’r purée tomato, y gwin coch, y stoc a’r bouquet garni. Berwch y cyfan, rhoi caead ar y badell a mudferwi ar wres isel am 2 awr.
- Cynheswch lwy fwrdd o olew mewn padell, ychwanegwch y cig moch a’i ffrio nes ei fod yn grimp. Ychwanegwch y madarch a’r sialóts a’u brownio’n ysgafn, cyn eu hychwanegu at y bourguignon. Gorchuddiwch a choginiwch am 45 munud arall. Ychwanegwch ragor o stoc os oes angen.
- Cyn gweini, gwnewch yr hylif yn fwy trwchus gyda blawd corn a’i ferwi am 5 munud.
- Gweinwch gyda bara Ffrengig crystiog neu datws stwnsh.
Awgrym: Gellir coginio’r bourguignon ar y hob, yn y ffwrn neu mewn popty araf hefyd.