Mynd i'r cynnwys

Asennau Cig Oen Cymru gan Frantic Feast – tair ffordd

Cynhwysion 

Arddull Tandoori

  • 4 asen Cig Oen Cymru PGI
  • 1 llwy fwrdd o bowdr tandoori
  • 1 llwy de tyrmerig
  • 1 llwy de cwmin
  • 1 llwy de coriander
  • 1 llwy de powdr chili
  • 4 llwy de iogwrt naturiol
  • Sudd ½ lemwn
  • Llwyaid olew olewydd
  • Halen a phupur
  • Harissa mêl
  • 4 asen Cig Oen Cymru PGI
  • 2 lwy fwrdd pasta harissa
  • 1 llwy fwrdd mêl
  • Llwyaid olew olewydd
  • Halen a phupur
  • Sudd ½ lemwn
  • 2 ewin garlleg wedi’u torri
  • Garlleg a rhosmari
  • 4 asen Cig Oen Cymru PGI
  • Dau frigyn o rosmari ffres
  • 5 ewin garlleg
  • Sudd ½ lemwn
  • Halen a phupur
  • Llwyaid olew olewydd

10
Amser coginio
60
Amser paratoi 
6
Yn gweini
  1. Marinâdwch bob set o asennau am 30 munud i 2 awr
  2. Griliwch yn ôl eich hoffter ar farbeciw, neu o dan y grill (bydd tua 4 munud ar bob ochr cochi’r cig oen yn y canol)
  3. Gweinwch gyda detholiad o ddanteithion barbeciw ar yr ochr.
  4. Sylwer – os ydych yn coginio’r tair arddull, bydd digon i fwydo chwech!
Awgrymiadau ar gyfer prydau ar yr ochr:
  1. Tatws melys rhost gyda cennin sifi a chaws glas
  2. Wedges tatws garlleg a theim
  3. Salad Groegaidd
  4. Tomatos a phupurau rhost
  5. Asbaragws gyda parmesan
 

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025