Rydym yn dathlu Wythnos Caru Cig Oen 2021 mewn steil gydag antur fwyd fydd yn tynnu dŵr o’r dannedd, wrth i ni gyfuno ein Cig Oen Cymreig gyda’r gorau o fwyd Eidalaidd i greu prydau penigamp sy’n asio’r gorau o’r ddwy wlad.
Y cogydd o fri Francesco Mazzei fydd yn eich tywys trwy ein cyfres fer o brydau Eidalaidd. Fel un sydd yn gyson frolio Cig Oen Cymreig ac a fu’n ddiweddar yn cydweithio gyda neb llai na’ Denise Van Outen ar raglen ‘Cooking with the Stars’ ITV1, mae Francesco’n edrych ymlaen at rannu pedwar o’i hoff brydau Cig Oen Cymreig â chi – mwynhewch!
Dysgwch fwy am Francesco a’i ryseitiau
Wythnos Caru Cig Oen 2021
Wedi ei sefydlu nôl yn 2015 i hyrwyddo ac amlygu’r angerdd a’r ymroddiad y mae ffermwyr yn ei arddangos ddydd ar ôl dydd i gynhyrchu bwyd o safon, mae Wythnos Caru Cig Oen wedi tyfu dros y blynyddoedd i fod yn ddyddiad allweddol yn nyddiadur unrhyw un sy’n caru bwyd da. Flwyddyn yma bydd yn tynnu sylw at gynaliadwyedd cryf y diwydiant a sut mae’r ffordd Gymreig o ffermio yn defnyddio dulliau gwahanol iawn i systemau mwy dwys y gwelir mewn ardaloedd eraill ar draws y byd.
Awyddus i ddarganfod mwy am gynaliadwyedd Cig Oen Cymru? Dysgwch y stori tu ôl i’n bwyd ar ein tudalennau cynaliadwyedd.