Mynd i'r cynnwys

Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar ddanteithion Calan Gaeaf Cig Eidion Cymru PGI!

https://youtu.be/i8Kso2cLrQ4 Mae’n ôl! Yn dilyn Calan Gaeaf tawelach na’r arfer llynedd, ni’n siwr fod y rhai bychain ar bigau’r drain i gael mynd nôl allan i gnocio ar ychydig o ddrysau! Gobeithio fod gennych chi ddigon o ddanteithion – mae’n argoeli i fod yn noson brysur! Ond cyn iddynt fynd allan ar eu helfa, beth am eu helpu i roi cynnig ar ein bwyd brawychus – edrychwch isod ar ein ryseitiau Calan Gaeaf i blant. Bydd eich bwystfilod bach wrth eu boddau’n gwneud y danteithion dychrynllyd! Yn lle’r cawl pwmpen arferol beth am roi cynnig ar gerfio wynebau ar bupur a’u stwffio â bolognese a reis am bryd brawychus, neu gwnewch y kofta bysedd gwrach fel tamaid arswydus i’w gael ganol dydd! Gwyliwch ein cogydd preswyl Elwen yn dangos i chi sut i goginio’r wledd Calan Gaeaf isod.

Llusernau pupur wedi eu stwffio â Chig Eidion Cymru

Kofta bach Cig Eidion Cymru a bysedd gwrach

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025