Ydych chi weithiau'n teimlo ychydig yn ddi-hwyl am ddim rheswm amlwg? Gallai lleddfu blinder a gwella eich lles cyffredinol fod mor syml â bwyta diet amrywiol a chytbwys.
[caption id="attachment_7614" align="aligncenter" width="1024"]
Cig Oen Cymru gyda sinsir a shibwns wedi’i dro-ffrio[/caption]
Gall cig coch fel rhan o ddiet iach a chytbwys wneud cyfraniad pwysig at gymeriant maetholion fel haearn a sinc. Mae hefyd yn darparu protein o ansawdd uchel ac amrywiaeth o faetholion eraill, gan gynnwys fitaminau B, potasiwm a ffosfforws.
Oeddech chi'n gwybod:
Ychydig mwy am fanteision fitamin B12…
Mae fitamin B12 yn chwarae rhan bwysig wrth gadw ein cyrff i weithredu'n normal, gan leihau blinder a lludded, ac yn wahanol i fwydydd sy'n seiliedig ar blanhigion, mae i'w gael yn naturiol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid, gan gynnwys Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Beth mae fitamin B12 yn ei wneud?
Mae’n hydawdd mewn dŵr ac yn cael ei amsugno'n hawdd i'r llif gwaed, ac mae fitamin B12 yn helpu i gadw'r system imiwnedd i weithio'n normal, gan gynnwys gweithrediad seicolegol ein cyrff.
Mae manteision fitamin B12 yn niferus, yn helpu gyda;
Salad Asiaidd Cig Eidion Cymru a nwdls[/caption]
A yw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu cynhyrchu'n gynaliadwy?
Mae gan y ffordd Gymreig o ffermio stori wahanol iawn i’w hadrodd o gymharu â rhai o’r systemau dwys a diwydiannol a geir mewn rhannau eraill o’r byd.
Gyda safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae ein ffermydd teuluol wedi helpu i warchod ein tirwedd unigryw ers cenedlaethau, a byddant yn parhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod.
Cymerwch agwedd gytbwys…
Cyn i chi estyn am donic neu atchwanegiad ateb cyflym, mae'n werth ystyried manteision bwyta diet cytbwys sy'n cynnwys cig coch a mwynhau manteision hirdymor y ffordd naturiol. Gallwch ddysgu mwy am rai o fanteision ehangach bwyta diet iach a chytbwys gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ein hadran iechyd. Hefyd, gallwch ymweld â'n tudalennau ryseitiau am lawer o syniadau am brydau blasus a maethlon.

- Gall cig coch fel rhan o ddiet iach a chytbwys wneud cyfraniad pwysig at gymeriant maetholion fel haearn a sinc yn niet y DU
- Mae cig coch hefyd yn darparu protein o ansawdd uchel ac amrywiaeth o faetholion eraill, gan gynnwys fitaminau B, potasiwm a ffosfforws
- Mae potasiwm yn cyfrannu at weithrediad normal y cyhyrau a'r nerfau ac yn helpu i gynnal pwysedd gwaed arferol
- Mae sinc yn cefnogi ffrwythlondeb normal ac atgenhedlu
- Mae cig coch yn naturiol isel mewn sodiwm (elfen allweddol mewn halen). Mae lleihau'r defnydd o sodiwm yn helpu cynnal pwysedd gwaed normal
- Mae cig yn cyfrannu at wella amsugno haearn pan gaiff ei fwyta gyda bwydydd eraill sy'n cynnwys haearn
- Mae cig a chynnyrch llaeth yn cynnwys fitamin B12, maetholyn hanfodol nad yw'n bresennol yn naturiol mewn diet fegan

- Gweithrediad normal yr ymennydd
- Cynhyrchu celloedd gwaed coch
- Gweithrediad nerfau
- Cynhyrchu DNA

