Mae adeg gariadus y flwyddyn wedi cyrraedd, pan fydd pobl yn cwtsho gyda’u hanwyliaid ac yn rhoi llwyth o gariad ac anrhegion iddyn nhw (nid o reidrwydd yn y drefn honno). Ydy, mae’n Ddydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr a Dydd San Ffolant ar 14 Chwefror (peidiwch ag anghofio!).
Er y byddai pryd tri chwrs mewn bwyty moethus yn siŵr o blesio, dychmygwch pa mor hapus fyddai eich anwylyd pe baech yn coginio danteithion blasus?
Felly, fel tamaid i aros pryd, rydyn ni wedi dewis ambell bryd bendigedig sy’n sicr o greu argraff.
Mae ein Stecen sbawd frith (featherblade) Cig Eidion Cymru gyda chimichurri yn olygfa odidog – darnau trwchus suddog o stêc wedi’u diferu â saws blasus, siarp a bywiog. Dychmygwch hyn gyda thatws rhost crimp neu sglodion trwchus… nefoedd. Neu efallai y gallech droi’r gwres i fyny gyda’n Cig Eidion Cymru Crensiog gyda tsili…neu’r goleuadau i lawr gynda’n Chasseur Stêc Cig Eidion Cymru.
Beth am stêcs coes Cig Oen Cymru gyda chimichurri mintys neu gytledi Cig Oen Cymru blasus gyda saws perlysiau a garlleg wedi’u gweini â sglodion trwchus? Am bryd ychydig yn fwy cain, beth am risotto hyfryd Cig Oen Cymru, berwr y gerddi a parmesan? Cig oen heb lawer o fraster yn swatio mewn gwely o reis Arborio gyda phys bach melys…mae’n hynod flasus ac yn werth aros amdano!
Am ragor o brydau blasus i ddau, ewch i’n tudalen Bwrdd y cogydd lle mae prydau anhygoel gan gogyddion enwog i’w cael.