
                 17
              
              
                Amser coginio
              
            
                5
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                4
              
              
                   Yn gweini
              
            
                  
                  Diolch i Hungry Health Happy am y rysait
 
        
        
      - Rhowch y golwythion cig oen, 2 lwy fwrdd o olew olewydd, garlleg, rhosmari, sudd a chroen y lemon a'r halen a'r pupur mewn powlen. Cymysgwch yn dda fel bod y cig oen wedi'i orchuddio. Gorchuddiwch y cyfan a'i adael i farinadu am o leiaf 30 munud.
 - Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
 - Lledferwch y tatws am 5 munud. Draeniwch nhw a'u gadael i stemio'n sych am ychydig funudau.
 - Cynheswch lond llwy fwrdd o olew mewn padell ac ychwanegwch y golwythion wedi'u marinadu. Browniwch am funud bob ochr.
 - Rhowch y golwythion wedi’u brownio ar hambwrdd pobi mawr ac ychwanegwch y shibwns.
 - Ychwanegwch y tatws i'r hambwrdd. Diferwch yr olew sy'n weddill dros y tatws ac ychwanegwch unrhyw olew o'r badell. Rhowch y cyfan yn y popty am 5 munud, neu 8 munud os yw'n well gennych eich cig oen wedi’i goginio’n fwy.
 - Ychwanegwch y tomatos i'r badell a'u dychwelyd i'r popty am 10 munud arall.
 
