
Cynhwysion
- Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, gyda’r asgwrn (tua 2kg)
 - 2 winwnsyn coch, wedi’u torri’n dalpiau trwchus
 - 1 bylb garlleg, wedi’i haneru
 - 1 gwydraid o win gwyn
 - 200ml stoc llysiau
 - Sbrigiau o rosmari
 - Sbrigiau o deim
 
Ar gyfer y marinâd:
- 4 ewin garlleg, wedi’u malu
 - 1 lemon (croen a sudd ½ lemon – cadwch yr hanner arall i’w roi o gwmpas y cig oen yn y tun rhostio)
 - 1 leim (croen a sudd ½ leim – cadwch yr hanner arall i’w roi o gwmpas y cig oen yn y tun rhostio)
 - 3 sbrigyn o rosmari, wedi’u torri’n fras
 - 3 sbrigyn o deim, wedi’u torri’n fras
 - 1 llwy fwrdd mêl
 - Pupur a halen
 - 1 llwy fwrdd olew
 
                 300
              
              
                Amser coginio
              
            
                20
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                5+
              
              
                   Yn gweini
              
            - Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y marinâd gyda'i gilydd a'u brwsio dros yr ysgwydd. Gadewch iddo sefyll am awr (rhowch ef yn yr oergell os yw'n sefyll am fwy nag awr).
 - Cynheswch y popty i 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3.
 - Pan fydd yr ysgwydd cig oen ar dymheredd yr ystafell, paratowch y tun rhostio trwy roi'r winwns wedi'u sleisio yng ngwaelod y tun, rhowch yr ysgwydd ar eu pen, arllwyswch yr hylif i'r tun ac ychwanegwch y garlleg, yr haneri lemon a leim a'r perlysiau.
 - Gorchuddiwch â ffoil a'i roi yn y popty am ryw 4-5 awr. Brasterwch yn achlysurol.
 - Cynyddwch dymheredd y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6. Tynnwch y ffoil, brasteru a rhoi’r ysgwydd yn ôl yn y popty am ryw 20 munud nes bod ganddi groen creisionllyd hyfryd ac yn frown ysgafn drosti.
 - Gadewch iddi orffwys am 30 munud cyn ei rhwygo ar wahân a’i gweini.
 
