- Cynheswch y popty i 170˚C / 150˚C ffan / Nwy 3.
- Cynheswch yr olew mewn padell neu ddysgl gaserol wrthfflam a ffrio’r cig eidion mewn dau swp nes ei fod yn frown braf. Dychwelwch yr holl gig eidion i’r ddysgl.
- Ychwanegwch y winwns a’r madarch a’u ffrio am ychydig funudau i’w lliwio. Ychwanegwch y garlleg a’i droi am funud arall.
- Ychwanegwch y sbeisys paprica a’u troi’n dda. Ychwanegwch joch o finegr gwin coch.
- Ychwanegwch y tomatos, stoc a sesnin, eu troi’n dda a dod â nhw i’r berw. Gorchuddiwch gyda chaead a’i roi yn y popty am awr a hanner.
- Ychwanegwch y pupurau a choginio am 30 munud arall neu nes bod y cig eidion yn frau.
- Cyn gweini, tewychwch os oes angen.
- Gweinwch gyda llwyaid o hufen sur a phersli wedi’i dorri.
- Mae’n flasus iawn gyda bara crystiog, reis neu basta â menyn.
Goulash Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 750g stêc balfais Cig Eidion Cymru PGI (stêc brwysio), wedi’i thorri’n giwbiau talpiog
- 2 winwnsyn mawr, wedi’u torri’n dalpiau
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd olew
- Pupur a halen
- 1 llwy fwrdd paprica
- 1 llwy fwrdd paprica mwg
- 150g madarch castan, wedi’u chwarteru
- Joch o finegr gwin coch
- 1 pupur coch, heb hadau ac wedi’i dorri’n dalpiau
- 1 pupur oren, heb hadau ac wedi’i dorri’n dalpiau
- 2 lwy fwrdd purée tomato
- 600ml stoc cig eidion
- 1 x tun 400g tomatos wedi’u torri
- 1 llwy fwrdd blawd corn i dewychu (os oes angen)
I weini:
- Hufen sur
- Persli, wedi’i dorri
- Bara crystiog