
Ingredients
- 300g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 pecyn o gymysgedd toes pizza, wedi ei wneud yn ôl y cynhwysion neu does pizza o’r siop neu gwnewch eich toes pizza eich hun. Bydd angen digon o does pizza arnoch i wneud 2 gylch 20cm
- Pupur a halen
- 1 winwnsyn, wedi ei sleisio neu ei dorri
- 1 pupur coch bychan, wedi ei dorri’n stribedi
- 1 pupur melyn bychan, wedi ei dorri’n stribedi
- 25g madarch
- Llond llaw o sbigoglys
- Llond llaw o domatos bychain, wedi eu haneru
- 1 ewin garlleg, wedi ei falu
- 2 lwy fwrdd purée tomato
- 1 llwy fwrdd saws coch
- 1 llwy de oregano sych
- 50g caws mozzarella wedi ei ratio
- 50g caws Cheddar, wedi ei ratio
- Ambell sleisen o salami (dewisol)
30
Cooking Time
30
Prep Time
4
Serves
- Cynheswch y ffwrn i 220°C / 200°C ffan / Nwy 6.
- Ffriwch y mins cig eidion yn sych tan ei fod yn frown, gan ei adael yn dalpiau.
- Ychwanegwch y winwnsyn, y pupurau a’r madarch a’u ffrio’n ysgafn i’w meddalu.
- Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill heblaw am y caws. Cymysgwch y cyfan a gadewch y gymysgedd i oeri.
- Ar fwrdd â blawd, rholiwch y toes pizza allan yn 2 gylch tua 20cm yr un.
- Rhowch y cylchoedd toes pizza ar bapur pobi.
- Cymysgwch y caws i mewn i’r gymysgedd cig eidion. Hanerwch y gymysgedd cig eidion a’i rhoi ar hanner pob cylch toes pizza gyda llwy, gan adael 3cm o gwmpas yr ymyl.
- Gwlychwch yr ymylon gyda dŵr a phlygu’r toes pizza dros hanner y cylch i ffurfio’r calzone.
- Pwyswch i selio’r ymylon. Gan ddefnyddio eich bysedd, crimpiwch neu plygwch y toes i ffurfio patrwm o gwmpas ymyl y calzone.
- Codwch y calzone ar hambwrdd pobi yn ofalus a’i roi yn y ffwrn am ryw 20 munud tan fod y toes yn euraidd ac yn grimp.