Edrych am rhywbeth i wneud gyda beth sydd dros ben o’r rysáit yma? Rhowch gynnig ar ein Burrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog
- I baratoi’r marinâd, cyfunwch yr holl gynhwysion sych. Brwsiwch y frisged ag ychydig o olew yna defnyddiwch eich dwylo i rwbio’r cynhwysion sych dros y cig. Gadewch i’r cig farinadu yn yr oergell am o leiaf awr – byddai dros nos hyd yn oed yn well.
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160ºC / 140ºC ffan / Nwy 4.
- I goginio, cynheswch ychydig o olew mewn padell ffrio fawr a ffriwch y cig ar bob ochr nes mae wedi brownio.
- Trosglwyddwch i dun rhostio wedi’i leinio â ffoil neu bapur pobi, ychwanegwch stoc neu gwrw’n ofalus o amgylch y cig, gorchuddiwch a choginiwch yn y popty am oddeutu 2 awr fesul 450g o gig nes mae’r cig yn frau. Gallwch goginio mewn coginiwr araf ar y gosodiad ‘isel’ am 8 awr.
- Tynnwch o’r popty a gadael iddo sefyll am 30 munud cyn ei gerfio yn groes i’r graen neu ei dynnu’n ddarnau.
- Gweinwch mewn ffyn bara gyda gercinau a nionod wedi ffrio.