Mynd i'r cynnwys

Stiw Cig Eidion Cymru gyda Thwmplenni gan Welsh Food Dude

Cynhwysion 

Stiw:

  • 2 lwy fwrdd o olew llysiau
  • 1kg o gig eidion i’w stiwio (braising steak) – wedi’i dorri’n ddarnau
  • 2 lwy fwrdd o flawd plaen wedi’i sesno
  • 2 nionyn – wedi’u torri
  • 4 moron – wedi’u torri
  • 2 bsnip mawr – wedi’u torri
  • 6 ewin garlleg – wedi’u briwio
  • Ychydig o frigau rhosmari a theim
  • 2 ddeilen llawryf
  • 1 llwy de o saws Worcestershire
  • 500ml o gwrw brown (brown ale)
  • 1 potyn stoc cig eidion
  • Persli ffres wedi’i dorri i’w weini

Thwmplenni:

  • 150g o flawd codi (self-raising)
  • 70g o fraster aren cig eidion (suet)
  • 1-2 lwy fwrdd o bersli ffres wedi’i dorri

7
Amser coginio
30 munud
Amser paratoi 
4-6
Yn gweini
  1. Cymysgwch y darnau cig eidion gyda'r blawd, sydd wedi'i sesno â halen a phupur. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew i badell ffrio dros wres canolig, browniwch y cig mewn sypiau a'i roi o'r neilltu.
  2. Ychwanegwch weddill yr olew i'r badell a ffriwch y nionyn a'r moron am 7-8 munud; ychwanegwch y garlleg a pharhau i ffrio am ychydig funudau'n rhagor.
  3. Rhowch holl gynhwysion y stiw yn y popty araf (ac eithrio'r persli) a'u coginio ar wres isel am 7 awr.
  4. Ar ôl tua 6 awr a hanner, gwnewch y thwmplenni. Rhowch y blawd, y braster aren a'r persli mewn powlen. Gwnewch dwll yng nghanol y cymysgedd ac ychwanegwch 3 llwy fwrdd o ddŵr. Cymysgwch nhw gyda'i gilydd a pharhau i ychwanegu 1 llwy fwrdd o ddŵr ar y tro nes bod y cymysgedd yn ffurfio toes meddal. Fel arfer, mae hyn yn cymryd tua 3-4 llwy fwrdd o ddŵr. Rhannwch y toes yn 8 pêl a'u rhoi ar ben y stiw. Trowch y popty araf i wres uchel a choginiwch am awr.
  5. Gweinwch gyda thatws stwnsh menynog ac ychwanegwch ychydig o bersli ffres ar y brig.

More like this


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025