Mynd i'r cynnwys

Bowlen Stecen Cig Eidion Cymru a Reis gan Frantic Feast

Cynhwysion 

  • 1 stêc sirloin cig eidion Cymreig
  • 75g o reis
  • Bawd o sinsir
  • 3 clof o arlleg
  • 1 llwy fwrdd o olew sesame
  • 2 lwy fwrdd o saws soi ysgafn
  • 1 llwy de o siwgr brown
  • 1 winwnsyn gwanwyn
  • Hanner llwy de o hadau sesame
  • 1 wy
  • 1 moron
  • ½ ciwcymbr
  • 1 llwy fwrdd o finegr gwin gwyn
  • 1 llwy fwrdd o olew tsili crensiog

 

Addurniadau:

  • Hanner tsili coch
  • 1 winwnsyn gwanwyn
  • Leim
  • 1 llwy fwrdd o kimchi
  • ½ afocado
  • 50g o ffa edamame

20
Amser coginio
10
Amser paratoi 
1
Yn gweini
  1. Cymysgwch yr olew sesame, saws soi, garlleg, sinsir, winwnsyn gwanwyn, siwgr brown a hadau sesame, gorchuddiwch y stêc a'i roi o'r neilltu i farinâd
  2. Sleisiwch y ciwcymbr a'r foron yn fân a'u cymysgu â'r finegr gwin gwyn ac olew tsili crensiog
  3. Rhowch eich reis ymlaen i goginio yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn
  4. Griliwch y stêc i'ch hoffter a'i roi o'r neilltu i orffwys
  5. Berwch yr wy am 7 munud ac yna rhedeg o dan ddŵr oer i atal coginio pellach
  6. Mewn powlen weini, rhowch y stêc ar ben y reis ac ychwanegwch yr afocado, kimchi, picl ciwcymbr a moron, wy wedi'i ferwi'n feddal, ffa edamame, winwnsyn gwanwyn a tsili
  7. Mwynhewch!

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025