Pwll Tân. Sbeis. Eryri.
Cig Oen Cymru yw hwn, yn llawn agwedd.
I ddathlu Wythnos Caru Cig Oen eleni (01-07 Medi), mae ein llysgennad Cig Oen Cymru Chris ‘Epic’ Roberts a’i ffrind Lee Tiernan o fwyty Black Axe Mangal yn Llundain, y ddau’n gwirioni ar fwyd, wedi uno i greu cyfres o ryseitiau fideo newydd unigryw.
Mae’r bwyty adnabyddus yn Highbury – sy’n cael ei dalfyrru i BAM gan selogion – yn cael ei ysbrydoli gan arddull coginio gril mangal Twrcaidd ac mae ganddo enw da iawn am gynnig bwyd mentrus, cryf, dewr ac anturus.
Bu Lee a Chris yn ffilmio yng nghalon Eryri, ac yn y fideos maen nhw’n rhannu cyngor coginio cyfrinachol gyda’i gilydd wrth iddyn nhw greu pedair rysáit flasus, gyffrous, danllyd sy’n cynnwys Cig Oen Cymru fel nas gwelwyd erioed o’r blaen.
Ond peidiwch â phoeni, gallwch chi ail-greu’r ryseitiau hyn gartref heb bwll tân na ‘plancha’ – gwnaiff unrhyw radell boeth dan do neu farbeciw y tro.
Felly byddwch yn barod i greu blasau anhygoel yn ystod Wythnos Caru Cig Oen wrth i chi gael profiad o goginio beiddgar a chyffrous.