Mynd i'r cynnwys

Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Cyfryngau Cymdeithasol

 

Hyrwyddwr:
Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales.

 

Ty Rheidol, Parc Merlin, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 4BH

 

Cymhwystra
Mae’r gystadleuaeth yn agored i drigolion y Deyrnas Unedig.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Nid yw gweithwyr Hybu Cig Cymru na’u teuluoedd agosaf yn gymwys i ymgeisio.

 

Sut i Ymgeisio
I ymgeisio, rhaid i gyfranogwyr ‘like’/wneud sylw. 
Rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn 9am ar y 26 o Awst.
Dim ond un cais fesul person a ganiateir oni nodir yn wahanol.

 

Cyfnod y Gystadleuaeth
Mae’r gystadleuaeth yn agor ar 21/08/26 ac yn cau am 9am ar 26/08/26.
Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau eu cyfrif.

 

Gwobr
Bydd un enillydd yn derbyn hamper Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig ar gyfer barbeciw.
Ni ellir trosglwyddo’r wobr ac ni chynigir dewis arall yn lle arian parod.
Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddisodli’r wobr gydag un o werth cyfartal neu uwch os oes angen.

 

Dewis yr Enillydd
Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau.

 

Hysbysu’r Enillydd
Cysylltir â’r enillydd drwy neges uniongyrchol o fewn diwrnod i’r dyddiad cau.
Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn dau ddiwrnod, mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddewis enillydd arall.

 

Cyhoeddusrwydd
Drwy ymgeisio, mae cyfranogwyr yn cytuno y gellir cyhoeddi eu henw ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr hyrwyddwr os ydynt yn ennill.
Ni chyhoeddir unrhyw wybodaeth bersonol bellach heb ganiatâd.

 

Diogelu Data
Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth a dyfarnu’r wobr y defnyddir gwybodaeth bersonol a ddarperir fel rhan o’r gystadleuaeth.
Caiff data eu prosesu yn unol â pholisi preifatrwydd yr hyrwyddwr: https://meatpromotion.wales/cy/privacy-policy-2/

 

Cyffredinol
Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddiarddel ceisiadau sy’n anghyflawn, yn dwyllodrus, neu’n torri’r telerau hyn.
Mae penderfyniad yr hyrwyddwr yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chynnal. Mae’r trefnydd yn cadw’r hawl i ganslo, diwygio neu atal y gystadleuaeth pan fo angen, oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

 

Ymwadiad Cyfryngau Cymdeithasol
Nid yw’r hyrwyddiad hwn yn cael ei noddi, ei gymeradwyo na’i weinyddu gan Facebook ac Instagram, nac yn gysylltiedig â nhw mewn unrhyw ffordd.
Drwy gymryd rhan, mae cyfranogwyr yn rhyddhau Instagram a Facebook rhag unrhyw gyfrifoldeb sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth.


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025