Mae’r tymor arholiadau wedi cyrraedd, ac os ydych chi’n byw gyda pherson ifanc yn ei arddegau sydd wedi bod yn paratoi ar gyfer eu harholiadau, byddwch yn deall y straen a’r pryder a ddaw yn ei sgil. Efallai eich bod yn pendroni sut i helpu eich arddegau drwy’r amser llawn straen hwn, ac er na allwn sefyll yr arholiadau ar eu cyfer (mae’n debyg am y gorau!) mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud i helpu – ac un ohonynt yw sicrhau bod y teulu oll yn bwyta diet iach a chytbwys a bod pryd cysurus yn aros amdanynt gartref.
Mae’r hyn rydyn ni’n ei fwyta ac yn yfed yn cael effaith enfawr ar ein cyrff a’n meddwl. Gall cig coch heb lawer o fraster chwarae rhan bwysig iawn yn ein diet – ac yn enwedig yn niet eich arddegau ar yr adeg bwysig hon, o’i gyfuno â digon o ffrwythau a llysiau, carbohydradau (yn enwedig carbohydradau sy’n rhyddhau’n araf), rhywfaint o gynnyrch llaeth a digon o ddŵr.
Felly, beth yw manteision iechyd a maeth cig coch heb lawer o fraster fel rhan o ddiet cytbwys? Isod, rydyn ni’n ymchwilio i rai o’r ffeithiau, a sut maen nhw’n bwysig i’ch arddegau yn ystod tymor ei harholiadau.
- Mae cig coch yn cael ei hystyried fel protein cyflawn, sy’n golygu ei fod yn darparu’r holl asidau amino hanfodol sydd eu hangen ar ein cyrff ac mae’n hawdd ei amsugno gan y corff
- Mae’r protein mewn cig coch yn helpu syrffed bwyd, gan ein cadw ni’n teimlo’n llawnach am gyfnod hirach, gan leihau’r awydd i fwyta byrbrydau llawn siwgr.
- Mae cig coch yn gyfoethog mewn haearn, sy’n ofynnol i gludo ocsigen o gwmpas y corff. Mae hyn yn helpu i leihau blinder – sy’n hanfodol yn ystod tymor yr arholiadau!
- Mae cig coch yn cynnwys haearn hem, sy’n golygu y gall y corff ei amsugno’n hawdd. Hefyd, ffaith ddiddorol yw y gall yr haearn yng nghig coch helpu i ryddhau’r haearn o ffynonellau planhigion neu lysiau!
- Dim ond mewn ffynonellau anifeiliaid fel cig coch y gellir dod o hyd i fitamin B12 yn naturiol. Mae fitamin B12 yn bwysig ar gyfer sawl swyddogaeth yn ein cyrff, ond yn arbennig mae’n helpu i drosi’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta i mewn i egni.
- Cig coch heb lawer o fraster yw un o’r ffynonellau gorau o sinc dietegol, ac un o’i swyddogaethau yw helpu i gadw’r system imiwnedd yn iach – sy’n hanfodol i’ch arddegau yn ystod y cyfnod hwn. Mae sinc ynghyd â haearn a fitaminau B hefyd yn ein helpu i ganolbwyntio, felly bydd eich arddegau yn diolch i chi am hyn!
Nawr ein bod yn gwybod yn union pa mor bwysig y gall cig coch heb lawer o fraster fod fel rhan o ddiet iach a chytbwys, beth am roi cynnig ar rai o’r ryseitiau blasus hyn yn ystod tymor yr arholiadau i’ch teulu?
Spag Bol Hawdd
Beth am sbageti bolognese blasus, ffefryn cadarn gyda theuluoedd mewn llawer o gartrefi? Tip gwych: paciwch gyda llysiau cudd ychwanegol fel moron wedi’i gratio i ddarparu hyd yn oed mwy o fanteision iechyd!
Chow Mein Cig Eidion Cymru
Mae chow mein Cig Eidion Cymru Ken Owens, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, yn ddewis blasus i baratoi adre yn lle bwyta allan. Paciwch yn llawn gyda hoff lysiau eich arddegau i gael maetholion ychwanegol.
Parseli tortilla tikka Cig Oen Cymru
Mae’r tortillas tikka Cig Oen Cymru hyn yn bryd canol wythnos wych i dretio eich arddegau iddo, a gellir eu llenwi â llysiau cudd i gynyddu eu cymeriant ffibr a maetholion.
Am fwy o ysbrydoliaeth ryseitiau blasus, ewch i’n tudalennau ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru