
240
Cooking Time
15
Prep Time
5+
Serves
- Tynnwch yr ysgwydd cig oen allan o'r oergell, sesnwch hi’n dda gyda halen ar y ddwy ochr, a gadewch hi am awr neu ddwy ar gownter y gegin i gynhesu.
- Nesaf, browniwch y cig mewn padell ffrio, ar y barbeciw neu o dan y gril, gan ei droi hanner ffordd drwodd i gael rhywfaint o liw ar y ddwy ochr.
- Cynheswch y popty i 160˚C / 140˚C ffan / Nwy 3-4.
- Rhowch yr ysgwydd mewn hambwrdd pobi dwfn.
- Torrwch y llysiau a'u gosod o amgylch y cig oen, arllwyswch y stoc cyw iâr a'r gwin gwyn drosto. Gosodwch yr ansiofis fan hyn a fan draw, malu'r pen garlleg ac ychwanegu'r ewinedd ynghyd â'r perlysiau. Gorchuddiwch â darn arall o bapur pobi, yna dalen o ffoil tun, gan selio'r ochrau'n dynn fel na all lleithder ddianc.
- Rhowch y cyfan yn y popty am tua 4 awr neu nes bod y cig mor frau, y gellir ei rwygo gyda llwy. Gadewch y cig i orffwys, wedi'i orchuddio, am 15 munud cyn ei weini.
- Torrwch a rhwygwch y cig i mewn i'r saws a'i weini gyda llawer o'r grefi, llysiau a rhywbeth i amsugno’r saws.