- Rhowch y cig oen mewn hambwrdd rhostio neu bopty araf.
- Cyfunwch y garlleg, sinsir, pupur Jamaica ac olew.
- Trywanwch y cig oen ar ei hyd a gwasgaru’r cymysgedd sbeis drosto. Sesnwch.
- Gosodwch y winwnsyn o dan y cig oen. Ychwanegwch y dail llawryf, rhosmari, coed anis, 6 hanner clementin a 200ml o stoc o amgylch y cig oen.
- Gorchuddiwch a choginiwch y cig yn y popty am 5 awr ar 150˚C / 130˚C ffan / Nwy 2, neu mewn popty araf am 8 awr (uchel), 10-12 awr (isel).
- Hidlwch y sudd o’r hambwrdd a’i roi o’r neilltu.
- Ychwanegwch y triog a’r siwgr brown i badell. Gwasgwch yr haneri clementin sy’n weddill i mewn.
- Dewch ag ef i fudferwi a brwsiwch y cymysgedd dros y cig oen.
- Ychydig cyn gweini, cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6 a rhostio’r cig oen am 30 munud.
- Ar gyfer y grefi, ail-gynheswch y suddion wedi’u cadw ac unrhyw rai o’r hambwrdd. Tewychwch gyda 1 llwy fwrdd o flawd corn wedi’i gymysgu â dŵr.
Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i rhwygo gyda chlementin a phomgranad gan Anna’s Family Kitchen
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 5 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 3kg ysgwydd Cig Oen Cymru PGI
- 1 llwy de pupur Jamaica
- 5cm sinsir, wedi’i dorri
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu
- 2 lwy fwrdd olew olewydd
- Pupur a halen
- 4 deilen llawryf
- Sbrigiau rhosmari
- 5 clementin, wedi’u haneru
- 2 winwnsyn, wedi’u torri’n ddisgiau
- 5 coeden anis
- 200ml stoc
- 4 llwy fwrdd triog pomgranad
- 3 llwy fwrdd siwgr brown
- Hadau pomgranad a rhosmari i addurno