
Cynhwysion
- ½ ysgwydd o Gig Oen Cymru
- 2 llwy de o hadau cwmin
- 5 ewin garlleg
- 2 lemwn wedi’u cadw, wedi’u dorri
- 1 llwy de o sinamon mâl
- Llond llaw o goriander, wedi’i dorri’n fân
- ½ llwy de o fint sych
- Sesnin
- 2 lwy fwrdd o olew
- 150 ml o stoc llysiau
Dresin Iogwrt a Tahini:
- 200g o iogwrt Groegaidd trwchus
- 2 lwy fwrdd o Tahini
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 2 llwy de o groen lemwn
- 2 llwy de o sudd lemwn
- ½ llwy de o bowdr Sumac
I’w Weini:
- Hadau pomgranad
- Bara gwastad
240
Amser coginio
25
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Cynheswch y popty i 130°C
- Cynheswch badell fach ac ychwanegwch yr hadau cwmin, cynheswch yn ofalus am ychydig funudau nes eu bod yn dechrau popio a lliwio ychydig. Tynnwch oddi ar y gwres, oerwch a'i roi mewn pestl a morter a malu'r hadau.
- Mewn prosesydd bwyd, rhowch y cwmin, lemwn, garlleg, sinamon, mintys, coriander, sesnin a'r olew. Cymysgwch yn bast.
- Rhowch y cig mewn tun rhostio.
- Defnyddiwch gyllell finiog i wneud holltau yn wyneb y cig.
- Rhwbiwch y past perlysiau dros wyneb y cig i gyd.
- Arllwyswch y stoc o amgylch gwaelod y tun.
- Gorchuddiwch yn dynn â ffoil gan wneud yn siŵr nad yw'n cyffwrdd ag wyneb y cig oen.
- Coginiwch am tua 2 ½ - 3 awr nes bod y cig yn dyner.
- Cynyddwch dymheredd y popty i 200°C.
- Tynnwch y ffoil a choginiwch am 20 munud arall nes bod y croen yn grimp ac yn frown. (Gallwch eu rhoi o dan y gril nes ei bod yn grimp ac wedi brownio)
- Gadewch i orffwys am 30 munud cyn tynnu'r cig oddi ar yr asgwrn.
- Dresin Iogwrt a Tahini:
- Cymysgwch yr iogwrt, y tahini, y garlleg, croen y lemwn a'r sudd gyda'i gilydd nes ei fod yn llyfn.
- Ychwanegwch y sumac a'i droi'n ysgafn.
- Gweinwch y Cig Oen gyda bara gwastad, y dresin a rhowch hadau pomgranad ar ei ben.