Diolch i Hungry Healthy Happy am y rysait
- Cynheswch yr olew mewn padell fawr. Ychwanegwch yr ysgwydd cig oen a’i brownio ar bob ochr.
- Rhowch y winwns a’r moron yn y popty araf. Rhowch y cig oen wedi’i frownio ar ben y llysiau.
- Gan ddefnyddio cyllell finiog, torrwch dyllau i mewn i’r cig oen. Gwthiwch sleisen o arlleg ac ambell ddeilen rhosmari i mewn i bob twll.
- Sesnwch ac arllwyswch y stoc. Gwnewch yn siŵr eich bod yn arllwys y stoc o amgylch yr oen, nid dros ei ben.
- Coginiwch ar y nodwedd HIGH am 5 awr.
Awgrymiadau: Os ydych chi eisiau ychwanegu mwy fyth o flas at y grefi, ar ôl i chi dynnu’r cig oen wedi’i serio allan o’r badell, gallwch ei ddad-sgleinio gyda naill ai rhywfaint o stoc neu joch o win coch. Defnyddiwch lwy bren i grafu’r badell ac yna ei dywallt i’r popty araf. Os ydych chi eisiau gwneud y cig oen hyd yn oed yn fwy crimp ar y tu allan ar ôl iddo goginio yn y popty araf, trosglwyddwch ef i dun rhostio a’i goginio yn y popty am 25-30 munud.