- Mewn powlen fechan, cymysgwch holl gynhwysion y saws.
- Mewn powlen arall, cymysgwch y blawd corn, y pum sbeis Tsieinïaidd, y pupur a’r powdr tsili. Arllwyswch y gymysgedd ar blat a’i defnyddio i orchuddio’r sleisys o gig eidion.
- Mewn padell fechan, cynheswch yr olew sesame a ffriwch y llysiau’n ysgafn am funud neu ddau, gan sicrhau eu bod yn grimp braf.
- Cynheswch 3 llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio. Rhowch stribed o gig eidion yn yr olew poeth i weld a yw’n ddigon poeth. Pan fo’n barod, ffriwch y stribedi cig eidion tan eu bod yn grimp braf (Coginiwch y stribedi mewn dau swp i sicrhau eu bod yn grimp). Tynnwch nhw allan gyda llwy dyllog a’u rhoi ar bapur cegin. Gwaredwch yr olew coginio.
- Pan rydych chi’n barod i weini, rhowch y stribedi o gig eidion yn ôl yn y badell, ychwanegu cynhwysion y saws a chynhesu popeth dros wres uchel am funud.
- Gweinwch y cig eidion gyda reis berw a’r llysiau crenshlyd, cyn rhoi hadau sesame ar ben y cyfan.
Tsili crenshlyd Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 300g stêc rwmp neu syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI, wedi ei dorri’n stribedi eithaf trwchus
- 3 llwy fwrdd olew
- 4 llwy fwrdd blawd corn
- 1 llwy de pum sbeis Tsieinïaidd
- ¼ llwy de powdr tsili
- ½ llwy de pupur du
- 75g mange-tout neu bys melys, wedi eu sleisio
- 1 foronen, wedi ei thorri’n fatsys
- Gwraidd sinsir (darn 2cm), wedi ei dorri’n fatsys
- ½ llwy fwrdd olew sesame
Ar gyfer y saws:
- 1 oren bach, y croen a’r sudd
- 2 lwy fwrdd saws tsili melys
- 1 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
- 1 llwy fwrdd saws coch
- ½ llwy de haenau tsili neu ½ tsili coch, wedi ei dorri’n fân
I weini:
- Hadau sesame
- Reis wedi ei ferwi