
Cynhwysion
- 1.2kg ffiled gwddf neu ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, heb yr asgwrn ac wedi’i dorri’n dalpiau bras 2cm
 - 1 llwy fwrdd blawd
 - 1 llwy fwrdd olew llysiau neu gorn
 - 1 llwy fwrdd olew’r olewydd
 - 3 nionod coch canolig, wedi’u pilio a’u tafellu
 - 6 ewin garlleg, wedi eu pilio a’u malu
 - 30g gwraidd sinsir, wedi ei bilio a’i gratio’n fân
 - 1 llwy de paprica
 - ½ llwy de mace mâl
 - 2 lwy de cwmin mâl
 - 1 llwy de sinamon mâl
 - ½ llwy de cardamom mâl
 - Pinsiaid da o saffrwn
 - 2 lwy de purée tomato
 - 1½ litr isgell cyw iar neu gig oen, neu 2 giwb isgell wedi eu toddi mewn cymaint â hynny o ddŵr
 - 12 o fricyll sych, heb y cerrig, wedi eu mwydo dros nos mewn dŵr cynnes
 - 2 lemwn, wedi’u piclo
 
                 120
              
              
                Amser coginio
              
            
                25
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                4
              
              
                   Yn gweini
              
            - Rhowch halen a phupur ac ychydig o flawd dros y darnau cig oen yna ffriwch nhw mewn padell yn yr olew am ychydig o funudau nes eu bod wedi brownio. Rhowch nhw naill ochr.
 - Yn y cyfamser coginiwch y nionod yn ysgafn yn yr olew olewydd gyda'r sbeisys i gyd am tua 10 munud, gan droi nes eu bod yn feddal ac yn dechrau troi eu lliw. Ychwanegwch ychydig o ddŵr os oes angen.
 - Ychwanegwch y purée tomato a'r isgell a dewch â hwn i'r berw. Ychwanegwch y darnau cig oen a mudferwch yn ysgafn am 1 awr a hanner - 2 awr neu nes ei fod yn frau.
 - Gweinwch mewn tagine os oes un gennych gyda cous cous wedi eu stemio.
 
