
Cynhwysion
- 600g ffiledau ysgwydd neu wddf Cig Oen Cymru PGI heb esgyrn, wedi eu tocio a’u torri’n giwbiau mawr
- 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u torri’n dalpiau
- 1 llwy fwrdd cwmin mâl
- 1 llwy fwrdd sinamon mâl
- 1 llwy de sinsir mâl
- 1 llwy de coriander mâl
- ½ llwy de pupur du
- Tun 400g o ffacbys, wedi eu draenio a’u rinsio
- 400ml stoc cig oen neu lysiau
- 150ml sudd mango neu oren (neu debyg)
- 50g bricyll sych, wedi eu torri
- 50g datys heb gerrig, wedi eu torri
- 1 lemon, sudd a chroen
- 1 oren, sudd a chroen
- 1 llwy fwrdd mêl
- 250g couscous
- Llond llaw o fintys, wedi ei dorri
- Hadau pomgranad, i addurno
- 1 llwy fwrdd tafelli almonau i addurno
120
Amser coginio
20
Amser paratoi
5+
Yn gweini
- Cynheswch y ffwrn i 170°C / 150°C ffan / Nwy 3.
- Rhowch y ciwbiau cig oen, y winwnsyn, y sbeisys, y ffacbys, y bricyll, y datys, y stoc, y mêl, y suddion a hanner y croen i mewn i ddysgl caserol. Gorchuddiwch y cyfan a’i goginio am ryw awr a hanner, tan fod y cig yn frau.
- Tynnwch y caead ac ychwanegu’r couscous. Rhowch yn ôl yn y ffwrn am ryw 25 munud tan bod yr hylif wedi cael ei amsugno. Efallai y bydd angen ychwanegu ychydig mwy o stoc os yw braidd yn sych.
- Cyn ei weini, cymysgwch y mintys i mewn ac addurnwch y cyfan gyda’r hadau pomgranad.
