facebook-pixel

Stiw Cig Oen Cymru a ffa menyn

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2 ffiled gwddf neu 2 stêc coes Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n dalpiau
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri
  • 2 ffon seleri, wedi’u torri’n fân
  • 2 foronen, wedi’u sleisio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • Sesnin
  • Sbrigiau o deim a rhosmari
  • 450ml stoc cig oen neu lysiau
  • 150g bag spigoglys ifanc, cêl wedi’i rwygo neu cavolo nero
  • 400g tun ffa menyn, wedi’u draenio a’u rinsio
  • Dail teim neu fintys i addurno

Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell a ffriwch y cig oen am ychydig funudau nes ei fod wedi brownio.
  2. Ychwanegwch y winwnsyn, y seleri, y moron a’r garlleg a’u ffrio am rai munudau, gan eu troi’n ysgafn nes bod y llysiau wedi meddalu.
  3. Ychwanegwch y purée, y perlysiau a’r sesnin yna ychwanegwch y stoc, dewch â’r cyfan i’r berw ac yna mudferwch am tua awr nes bod y cig oen yn frau (45 munud os ydych yn defnyddio stêcs coes).
  4. Ychwanegwch y ffa menyn a’r llysiau gwyrdd a gadewch iddynt goginio am 5 munud arall.
  5. Gweinwch y stiw wedi’i ysgeintio gyda pherlysiau a bara crystiog.
Share This