- Cynheswch yr olew mewn padell a ffriwch y cig oen am ychydig funudau nes ei fod wedi brownio.
- Ychwanegwch y winwnsyn, y seleri, y moron a’r garlleg a’u ffrio am rai munudau, gan eu troi’n ysgafn nes bod y llysiau wedi meddalu.
- Ychwanegwch y purée, y perlysiau a’r sesnin yna ychwanegwch y stoc, dewch â’r cyfan i’r berw ac yna mudferwch am tua awr nes bod y cig oen yn frau (45 munud os ydych yn defnyddio stêcs coes).
- Ychwanegwch y ffa menyn a’r llysiau gwyrdd a gadewch iddynt goginio am 5 munud arall.
- Gweinwch y stiw wedi’i ysgeintio gyda pherlysiau a bara crystiog.
Stiw Cig Oen Cymru a ffa menyn
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 1 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 2 ffiled gwddf neu 2 stêc coes Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n dalpiau
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri
- 2 ffon seleri, wedi’u torri’n fân
- 2 foronen, wedi’u sleisio
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd purée tomato
- Sesnin
- Sbrigiau o deim a rhosmari
- 450ml stoc cig oen neu lysiau
- 150g bag spigoglys ifanc, cêl wedi’i rwygo neu cavolo nero
- 400g tun ffa menyn, wedi’u draenio a’u rinsio
- Dail teim neu fintys i addurno