- Mewn sosban ddigon llydan, chwyswch y llysiau wedi’u torri’n giwbiau mân dros wres canolig gydag ychydig o olew olewydd a’r dail llawryf.
- Yn y cyfamser, torrwch y frest cig oen yn giwbiau mân a’i sesno â halen a phupur.
- Seriwch y cig oen mewn padell ffrio ar wres canolig/uchel gydag ychydig o olew olewydd a’r rhosmari.
- Torrwch hanner yr ewinedd garlleg yn fân a’u cymysgu i mewn i’r llysiau. Malwch weddill yr ewinedd garlleg ychydig a’u hychwanegu at y cig oen.
- Unwaith y bydd y cig oen wedi serio’n dda, tynnwch ef allan o’r badell a’i ychwanegu at y llysiau a’i ffrio am ychydig funudau.
- Arllwyswch y gwin gwyn i mewn a gadewch iddo dewychu’n llwyr.
- Ychwanegwch y ‘nduja, y past tomato, y finegr, y mêl, a hanner y stoc. Gadewch iddo fudferwi rhwng awr ac awr a hanner, gyda chaead, gan ychwanegu mwy o stoc wrth goginio os yw’n mynd yn rhy sych.
- Gwiriwch a yw’r cig yn frau a gwnewch yn siŵr nad yw’r saws yn rhy rhedegog nac yn rhy drwchus. Addaswch gyda halen a phupur os oes angen.
- Gweinwch gyda stwnsh pwmpen a cavolo nero neu datws stwnsh menynaidd.
Stiw brest Cig Oen Cymru gan Francesco Mazzei
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 1 awr 30 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 1kg brest Cig Oen Cymru PGI
- 100g moron, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 100g seleri, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 100g winwns, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 2 sbrigyn o rosmari
- 2 ddeilen llawryf
- 3 ewin garlleg
- 50g past tomato
- 30g mêl
- 40g ‘nduja
- 100ml gwin gwyn
- 20ml finegr gwin gwyn
- 1l stoc llysiau neu gig oen
- Pupur a halen
- 30ml olew olewydd ifanc iawn