
Cynhwysion
- 2 x stêc coes Cig Oen Cymru PGI (neu stêcs ffolen)
 - Pupur a halen
 - 1 llwy fwrdd olew
 - 25g menyn
 - Sbrigyn o rosmari
 
Ar gyfer y chimichurri mintys:
- 6 llwy fwrdd olew olewydd ifanc iawn
 - 3 llwy fwrdd finegr gwin coch
 - 3 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u torri’n fras
 - ½ llwy de haenau tsili, neu 1 tsili gwyrdd, wedi’i dorri
 - 1 shibwnsyn neu ½ winwnsyn coch, wedi’i blicio a’i dorri’n chwarteri
 - Bwnsiad o bersli dail gwastad ffres
 - Bwnsiad mawr o ddail mintys ffres
 - Sudd ½ lemon
 - Pupur a halen
 - ½ llwy de siwgr
 
                 8
              
              
                Amser coginio
              
            
                10
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                2
              
              
                   Yn gweini
              
            - Tynnwch y stêcs coes allan o'r oergell a gadael iddyn nhw gyrraedd tymheredd yr ystafell.
 - I wneud y chimichurri, rhowch bopeth mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu gan adael y gwead yn weddol fras. Ychwanegwch ychydig o olew ychwanegol os oes angen. Os ydych chi'n ei wneud â llaw, torrwch bopeth yn fân a'i gymysgu gyda'i gilydd.
 - Cynheswch radell neu badell ffrio (neu gril). Ychwanegwch ychydig o olew i'r badell, sesnwch y stêcs a'u rhoi yn yr olew poeth. Ychwanegwch y rhosmari a choginiwch y stêcs ar un ochr am oddeutu 4 munud, trowch nhw drosodd a'u coginio am 4 munud arall, gan ychwanegu'r menyn a brasteru’r stêcs gyda'r menyn wedi'i doddi.
 - Gadewch i'r stêcs orffwys am ychydig funudau a'u gweini gyda'r chimichurri mintys, dail salad gwyrdd a bara crystiog.
 
