- Malu’r grawn pupur mewn pestl a morter neu falwr coffi. Arllwys y pupur i mewn i ogr dros bowlen a’i ysgwyd yn dda er mwyn cael gwared â’r holl bowdr bupur (gallwch ddefnyddio hwn eto). Neu, defnyddio grawn pupur sydd wedi’i falu’n barod.
- Gwasgu’r grawn pupur i mewn i ddwy ochr y stêcs, a’u rhoi ar lestr.
- Twymo’r olew mewn padell ffrio drwchus, sy’n ddigon mawr i ddal yr holl stêcs gyda digon o le. Pan fo’r badell yn ddigon poeth, ffrio’r stêcs am 2 funud tan bod crwst yn ffurfio, yna troi a choginio’r stêcs am 2 funud arall (heb ddefnyddio tymheredd rhy uchel rhag llosgi’r pupur). Os am goginio’r cig rhagor, mae angen troi’r stêcs eto – ddim yn rhy aml, chwaith.
- Rhoi’r stêcs ar lestr cynnes a’u cadw’n gynnes mewn ffwrn ar dymheredd isel iawn (tua 50ºC) i orffwys. Ychwanegu’r menyn i’r badell ffrio a’i adael i newid lliw nes ei fod yn frown fel cneuen, yna ychwanegu’r brandi (gan ofalu peidio â rhoi llenni neu awyrell eich ffwrn ar dân!). Berwi’r brandi, a chrafu darnau o waelod y badell, cyn ychwanegu’r hufen, sglein neu stoc y cig os ydych chi’n ei ddefnyddio, cyn ei ferwi eto.
- Rhoi’r stêcs ar blatiau cynnes ac ychwanegu unrhyw suddion o’r stêcs i’r saws; ei hidlo os hoffech, a’i arllwys dros y stêcs. Gweini’r stêcs gyda beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd – mae sglodion neu datws a llysiau tymhorol yn syniad da.
Stêc Cig Eidion Cymru “au poivre” gan Bryan Webb
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 x 175g stêc ffiled Cig Eidion Cymru PGI
- 2 lwy fwrdd grawn pupur du
- 2 lwy fwrdd grawn pupur gwyn
- 3 llwy fwrdd olew blodau’r haul
- 60g menyn heb halen
- 2 joch dda o frandi
- 2 lwy fwrdd hufen dwbl
- 4 llwy fwrdd sglein/stoc cig – dewisol