I goginio’r siancod cig oen:
- Cynheswch y ffwrn i 160ºC / 140ºC ffan / Nwy 3.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a serio’r siancod cig oen drostynt tan eu bod wedi brownio, yna rhowch nhw mewn dysgl bopty ddofn.
- Gan ddefnyddio’r un badell, ffriwch y winwnsyn, y foronen, y ddeilen fae a’r sbeisys tan fod y cyfan yn frown.
- Ychwanegwch y gymysgedd winwns a moron at y siancod cig oen yn y ddysgl bopty, yna ychwanegwch y tomatos tun. Ychwanegwch ddigon o ddŵr i orchuddio hanner y siancod cig oen.
- Gorchuddiwch y cyfan gyda ffoil a’i goginio yn y ffwrn am 1 awr 30 munud – 2 awr neu tan fod y cig yn frau iawn.
- Tynnwch y siancod allan o’r stoc, eu gorchuddio a’u gadael i orffwys, gan gadw’r suddion a’r stoc o’r badell.
I wneud y ragout:
- Rhowch y corbys wedi eu rinsio a’r tatws mewn dŵr oer. Berwch y cyfan, a’i goginio am 15 munud neu tan ei fod ychydig yn feddal. Draeniwch.
- Cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn, y garlleg a’r foronen. Pan maen nhw’n feddal, ychwanegwch y past rogan josh, gweddill y tomatos tun ac ychydig o’r hylif coginio i greu saws llyfn.
- Ychwanegwch y gymysgedd corbys a’r ffacbys a choginio am 10 munud arall, gan ychwanegu mwy o hylif os oes angen.
- Pum munud cyn gweini, ychwanegwch y tomatos bychain ac ychydig o goriander ffres.
- Rhowch y gymysgedd corbys ar blat fesul llwyaid a rhowch y siancod cig oen ar ei ben. Gweinwch y cyfan gyda bara naan cynnes.