Efallai fod faint o farinâd sydd yma yn ymddangos yn llawer, ond mae’n caniatáu ichi orchuddio’rr oen yn llawn. Gallwch hefyd wneud eich bara croyw eich hun i gyd-fynd â’r rysáit hon (gweler rysáit bara croyw isod). Paratowch y cig oen a’r marinâd y diwrnod cyn rydych chi’n bwriadu coginio’r cig oen.
I farinadu’r cig oen:
- Tynerwch y cig oen trwy bricio’r cig yn unig, naill ai gyda thynerwr neu fforc. (Bydd hyn yn helpu’r marinâd i socian i mewn i’r cig.)
- Mewn powlen fawr, cymysgwch yr holl gynhwysion sych ar gyfer y marinâd yn ysgafn. Ychwanegwch yr olew olewydd yn raddol at y cynhwysion sych, a’i gymysgu gyda’i gilydd nes fod ei drwch fel tywod gwlyb. Rhowch o’r neilltu. Awgrym: i gael mwy fyth o flas, gwnewch y marinâd y diwrnod cyn i chi roi’r cig oen ynddo.
- Pan fydd y marinâd yn barod, rhowch y darnau o gig oen yn y bowlen, gan symud y cig o gwmpas i sicrhau bod pob darn yn cael ei foddi’n llwyr yn y marinâd. Gorchuddiwch â cling ffilm a’i roi yn yr oergell i farinadu dros nos.
I goginio’r cig oen a gwneud y garneisiau (y diwrnod canlynol):
- Cynheswch y popty i 120˚C / 100˚C ffan / Nwy ½.
- Pan mae’r cig oen wedi marinadu, tynnwch goes cig oen allan o’r marinâd, a gyda’ch bysedd, crafwch gymaint o’r marinâd oddi ar y cig oen ag y gallwch. (Cadwch y marinâd i’w ddefnyddio ar gyfer cigoedd eraill – cadwch ef wedi’i rewi nes bod ei angen.) Rhowch y cig oen ar hambwrdd popty a rhowch 4 sgiwer ynddo. Mae hyn yn gwneud y cig oen yn haws ei drin wrth goginio.
- Dros lo poeth barbeciw, golosgwch y cig oen drosto. Os nad oes gennych farbeciw, defnyddiwch radell yn lle, ond mae’r blas yn well dros lo poeth.
- Pan mae’r cig oen wedi’i olosgi, rhowch ef mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am ryw 45 munud (mae hyn ar gyfer cig canolig, lle dylai tymheredd craidd y cig fod tua 68˚C). Fel arall, coginiwch ef at eich dant, gan addasu’r amseriadau yn unol â hynny.
- Tra bod y cig oen yn coginio, dechreuwch ar y garneisiau.
- I wneud y mayonnaise mintys, cymysgwch y mayonnaise gyda’r saws mintys mewn powlen. Os ydych chi’n defnyddio iogwrt yn lle mayonnaise, cynhwyswch y siwgr wrth gymysgu.
- Tynnwch y dail chwerw, allanol oddi ar y letys, a rhwygo’r canol creisiog. Rhowch mewn dysgl weini.
- I wneud y bresych coch picl, rhwygwch y fresychen a’i rhoi mewn powlen. Mewn powlen ar wahân, cymysgwch y finegr gyda’r siwgr a gadael iddo doddi nes ei fod yn glir. Arllwyswch y gymysgedd finegr a siwgr dros y fresychen a’i gymysgu’n dda. Gadewch am o leiaf 30 munud cyn ei weini. Awgrym: i gael blas dwysach, gwnewch ef y diwrnod cynt.
- Gwiriwch y cig oen: dylai fod yn barod pan fydd yn gadarn i’w gyffwrdd a’i dymheredd craidd yn 68˚C (ar gyfer cig canolig). Rhowch o’r neilltu i orffwys am ryw 10-15 munud, gan ei adael yn yr hambwrdd popty.
- Tra bod y cig oen yn gorffwys, gwnewch y dresin tahini. Mewn powlen, chwisgiwch y past tahini, garlleg wedi’i friwo/gratio, halen a sudd lemon gyda’i gilydd. Ychwanegwch y mirin a’i gymysgu nes fod y dresin yn drwchus. Ychwanegwch y dŵr yn raddol i lacio’r gymysgedd nes ei fod yn cwympo’n hawdd oddi ar y chwisg, gan ymdebygu i mayonnaise rhydd neu hummus. Addaswch faint o ddŵr yn ôl eich trwch dewisol. Arllwyswch i mewn i bowlen weini.
- Ar ôl i’r cig oen orffwys am 10-15 munud, gwthiwch y cig oen o amgylch yr hambwrdd fel ei fod yn casglu’r holl fraster dros ben. I gael crimprwydd ychwanegol ac i ailgynhesu’r cig oen, golosgwch yr oen drosto ar y barbeciw am ychydig eiliadau.
- Tynnwch y sgiwerau allan o’r cig oen a gyda chyllell finiog, cerfiwch y cig oen yn dafelli 1cm o drwch. Sesnwch bob tafell ar y ddwy ochr â halen sumac (gweler y cynhwysion).
- Gweinwch y cig oen gyda’r garneisiau, y letys creisiog wedi’i rwygo a’r bara croyw.
I wneud bara croyw:
Gwnewch y toes y diwrnod cyn eich bod chi’n bwriadu ei coginio. (Digon i 6-8 bara croyw)
- Cynheswch y dŵr mewn powlen neu jwg a chymysgu’r siwgr a’r burum i mewn iddo.
- Mewn powlen fawr, ychwanegwch y blawd a’r halen, a gwnewch bant yn y canol. Arllwyswch y gymysgedd dŵr cynnes i mewn i’r pant. Gan ddefnyddio fforc, cymysgwch y blawd gyda’r dŵr nes bod toes yn dod at ei gilydd.
- Trowch y toes allan ar arwyneb gwaith glân â blawd a, gyda dwylo â blawd arnyn nhw, tylinwch y toes am 10 – 15 munud. Dychwelwch y toes i’r bowlen, ei orchuddio â cling ffilm a’i roi yn yr oergell i brofi dros nos.
- Y diwrnod canlynol, tynnwch y toes allan o’r oergell a’i daro’n ôl (dylai fod wedi dyblu mewn maint dros nos).
- Ar ôl i chi ei daro’n ôl, rhannwch y toes yn beli o’r un maint – 300g y belen.
- Trowch y peli’n rholiau gan ddefnyddio blawd semolina mân iawn. Profwch nhw ar arwyneb gwaith nes eu bod wedi dyblu mewn maint. Dylai crwst ffurfio ar y tu allan.
- Pan fyddwch chi’n barod i’w defnyddio, trowch nhw drosodd fel bod y crwst ar y gwaelod. Rholiwch nhw allan i drwch o 2.5mm. Gadewch nhw am 15-20 munud fel eu bod nhw’n profi ychydig yn fwy.
- Coginiwch y bara croyw un ar y tro mewn padell boeth am 60 eiliad ar bob ochr, gan eu troi’n aml fel nad ydyn nhw’n llosgi.