
Cynhwysion
- 4 x 200g stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI, wedi eu torri’n giwbiau 2cm
- 150g madarch bychain cyfan
- 200g tatws bychain wedi eu coginio, a’u torri’n hanner
- 1 pupur coch, wedi ei dorri’n ddarnau 2cm
- 1 pupur oren, wedi ei dorri’n ddarnau 2cm
Ar gyfer y marinade:
- 100ml olew olewydd
- 2 lwy fwrdd o saws soi
- 2 lwy fwrdd o saws Worcestershire
- 2 lwy fwrdd o fwstard Dijon
- 2 lwy fwrdd o sudd lemon ffres
- 1 llwy de o rosmari ffres, wedi ei dorri’n fân
- ½ llwy de o bupur du
Ar gyfer y chimichurri:
- 30g persli, wedi ei dorri’n fân
- 2 ewin garlleg, wedi eu torri’n fân iawn
- 2 lwy de o oregano, wedi ei dorri’n fân
- ½ llwy de o haenau tsili coch
- ½ llwy de o haenau halen môr
- 30g finegr gwin coch
- 120g olew olewydd pur iawn
15
Amser coginio
40
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Mewn powlen fawr, chwisgio cynhwysion y marinâd.
- Ychwanegu’r stêcs a’r tatws bychain i’r marinâd yn y bowlen a chymysgu’n dda tan fod popeth wedi ei orchuddio. Ei adael i fwydo am 30 munud i awr.
- Rhagdwymo’r gril i dymheredd uchel neu, os yn defnyddio barbeciw, ei oleuo a’i adael i dwymo tan fod y glo yn eirias.
- Paratoi’r sgiwerau trwy osod pupur coch, pupur melyn, stêc, tatws newydd a madarch am yn ail. Ailadrodd a pharhau’r broses nes bod yr holl gynhwysion wedi cael eu defnyddio.
- I wneud y gymysgedd chimichurri, cymysgu’r holl gynhwysion, heblaw am yr olew olewydd. Unwaith i bopeth gymysgu, chwisgio’r olew olewydd i mewn yn araf.
- Unwaith i’r gril neu’r barbeciw gyrraedd y tymheredd cywir, rhoi’r sgiwerau ar y tân, a’u coginio am 4-5 munud ar bob ochr.
- Unwaith i’r sgiwerau goginio, arllwys y saws chimichurri drostyn nhw a’u gweini gyda bara croyw wedi grilio.