Mynd i'r cynnwys

Sgiwerau Cig Oen Cymru satay

Cynhwysion 

  • 1kg stêcs coes Cig Oen Cymru PGI, wedi eu torri’n ddarnau.
  • 70g menyn cnau llyfn
  • 40ml saws soia golau
  • 30ml sudd lemon
  • 20ml olew hadau rêp
  • 1 llwy de powdr tsili

15
Amser coginio
10
Amser paratoi 
5+
Yn gweini
  1. Mewn powlen fawr, chwisgio’r menyn cnau, saws soia, sudd lemon, olew a’r powdr tsili tan eu bod wedi eu cymysgu’n dda.
  2. Ychwanegu’r ciwbiau cig oen a chymysgu’n dda. Rhoi’r cig oen ar 4 sgiwer mawr metal neu bren (ar ôl eu socian mewn dŵr am 20 munud).
  3. Eu coginio o dan gril canolig wedi ei ragdwymo neu ar farbeciw parod am 14 munud, gan eu troi hanner ffordd drwy’r amser coginio.
  4. Gweini’r cebabs ar wely o reis wedi ei goginio a llysiau tymhorol.
Cyngor: mae socian sgiwerau pren am 20 munud cyn coginio yn eu hatal rhag llosgi o dan y gril neu ar y barbeciw.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025