
Cynhwysion
- 225g stêcs coes Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster, wedi’u torri’n stribedi tenau
 - 1 llwy de olew olewydd
 - 1 llwy fwrdd saws soi – heb siwgr ac yn isel mewn halen
 - 100g quinoa
 - 2 lwy fwrdd hadau pwmpen
 - 2 lwy fwrdd hadau blodau’r haul
 - 4 betysen wedi’u coginio a’u torri’n giwbiau
 - 1 mango aeddfed, wedi’i blicio a’i dorri’n ddarnau mawr (cadwch unrhyw suddion a’u rhoi yn y salad)
 - 2 lwy fwrdd hadau pomgranad – o tua 1 ffrwyth cyfan
 - 3 llwy fwrdd perlysiau cymysg ffres – basil, cennin syfi, persli a mintys
 - Llond llaw o sbrigynnau berwr y dŵr
 
                 10
              
              
                Amser coginio
              
            
                25
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                4
              
              
                   Yn gweini
              
            - Rhowch y quinoa mewn sosban ac ychwanegwch tua 300ml o ddŵr. Berwch a'i fudferwi am 10 munud, yna tynnwch oddi ar y gwres a gadewch y caead arno am 5 munud.
 - Cynheswch yr olew mewn wok neu badell ffrio fawr, ychwanegwch y stribedi o gig oen a'u brownio dros wres uchel, dylai hyn gymryd tua 2-3 munud. Ychwanegwch y saws soi a gadewch i'r gymysgedd fyrlymu, tewychu a gorchuddio'r cig. Tynnwch oddi ar y gwres.
 - Rhowch y cig oen, quinoa, hadau, betys, mango, hadau pomgranad, perlysiau ffres a berwr y dŵr mewn powlen salad fawr. Cymysgwch y cyfan yn dda a’i weini.
 
