
Ingredients
- 1 ffiled llygad y lwyn / canon Cig Oen Cymru PGI
- Pupur a halen
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 llwy fwrdd olew sesame
- 1 ciwb bychan o fenyn
- Gwraidd sinsir (darn 3cm), wedi ei ratio
- 3 ewin garlleg, wedi eu malu
- ½ tsili coch, heb yr hadau ac wedi ei falu’n fân
- 1l stoc cyw iâr
- 2 lwy fwrdd saws soi â llai o halen
- 1 llwy fwrdd mirin
- ½ llwy de pupur du mâl
- Pecyn 125g o nwdls ramen
I orffen
- Detholiad o lysiau o’ch dewis wedi eu torri’n denau: dail pak choi ifanc, moron, mange-tout, spigoglys, shibwns, radish
- 1 wy, wedi ei ferwi’n lled feddal
- Hadau sesame, wedi eu tostio
30
Cooking Time
30
Prep Time
2
Serves
- Cynheswch hanner yr olew a’r olew sesame mewn sosban. Ychwanegwch y garlleg, y sinsir a’r tsili a’u ffrio’n ysgafn am funud neu ddau. Ychwanegwch y saws soi, y mirin, y pupur du a’r stoc a’u berwi. Gorchuddiwch y cyfan gyda chaead a’i fudferwi’n ysgafn dros wres isel.
- Coginiwch y nwdls yn ôl cyfarwyddiadau’r pecyn. Draeniwch, rinsiwch y cyfan mewn dŵr oer ac ychwanegu ychydig o olew sesame.
- Sesnwch y cig oen gyda phupur du a chynhesu gweddill yr olew mewn padell ffrio fechan. Pan fo’n boeth, ychwanegwch y cig oen a’i serio ar bob ochr neu ei fod yn frown. Ychwanegwch y menyn, troi’r gwres i lawr ychydig ac ychwanegu’r menyn a’r suddion dros y cig oen fesul llwyaid, a’i goginio am 5 munud arall.
- Gorchuddiwch y cig oen gyda ffoil a’i adael i orffwys wrth i chi roi’r ramen at ei gilydd.
- Gan ddefnyddio lletwad, rhowch ychydig o’r potes i mewn i bowlen, ychwanegwch y llysiau a’r nwdls ac yna mwy o’r potes. Sleisiwch y cig oen yn denau, cyn ei ysgeintio gydag ychydig o halen. Rhowch y cig oen yn yr ddysgl.
- Ysgeintiwch hadau sesame ar ben y cyfan.