
25
Amser coginio
10
Amser paratoi
2
Yn gweini
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6. I baratoi'r crwst, rhowch y bara mewn prosesydd bwyd a'i friwsioni. Ychwanegwch y croen lemwn a'r perlysiau.
- I baratoi'r cig oen, rhiciwch y braster ar y rag. Cynheswch y badell nes mae'n boeth ac ychwanegwch yr olew. Ysgeintiwch y pupur du dros y rag a'i ffrio nes ei fod wedi brownio ar bob ochr.
- Tynnwch o'r badell yna taenwch y mwstard dros y braster ar y cig oen, ysgeintiwch y gymysgedd friwsionllyd a'r halen môr drosto a'i wasgu'n ysgafn fel bod y briwsion yn glynu yn y mwstard.
- Rhowch ar hambwrdd pobi a choginiwch am 20-25 munud os ydych chi'n hoffi'ch cig oen yn gymedrol/eithaf pinc, neu 30-35 munud os ydych chi am ei goginio'n dda.
- Gadewch iddo sefyll am 5-10 munud cyn torri'n gytledi unigol.
