Gellir defnyddio ffiledi lwyn heb esgyrn ar gyfer y rysáit hon hefyd, fodd bynnag, bydd yr amseroedd coginio yn fyrrach, yn dibynnu ar eu maint. Fel canllaw, coginiwch ffiledau lwyn am 10-15 munud neu nes bod y tymheredd craidd yn cyrraedd tua 68˚C.
Paratowch y finegr mintys a’r olew winwns o leiaf 2 awr 30 munud cyn coginio’r cig oen er mwyn gadael iddo galedu a rhewi.
Finegr mintys (i’w ddefnyddio ar gyfer y saws mintys a’r winwnsyn gwyn picl):
- Dewch â’r finegr gwin gwyn a’r siwgr i’r berw mewn padell, ychwanegwch y bwnsiad mawr o fintys ffres a gadewch iddo sefyll/mwydo am 5 munud (fel y byddech chi’n gwneud te), yna tynnwch y mintys allan o’r badell.
- Arllwyswch hanner y gymysgedd finegr i mewn i bowlen a’i roi o’r neilltu, gan gadw 1-2 llwy de ar gyfer y winwnsyn gwyn picl.
- Ychwanegwch yr agar agar at y finegr sydd ar ôl yn y badell a dod ag ef i’r berw, gan ei chwisgo’n gyson.
- Arllwyswch y gymysgedd finegr/agar agar i gynhwysydd a’i roi yn yr oergell am ryw 2 awr nes ei fod wedi caledu.
Olew winwns (i’w ddefnyddio ar gyfer y winwnsyn gwyn picl):
- Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn cymysgydd trydan.
- Pasiwch y gymysgedd olew trwy gadach mwslin dros bowlen/jwg gwrth-rewgell.
- Rhowch y bowlen/jwg o olew yn y rhewgell a’i adael i rewi nes bod yr olew winwns wedi gwahanu o’r dŵr winwns wedi’i rewi.
- Tynnwch yr olew winwns allan o’r dŵr winwns wedi’i rewi. (Gallwch chi daflu’r dŵr winwns wedi’i rewi nawr).
- Cadwch lwy fwrdd o’r olew winwns ar gyfer y winwnsyn gwyn picl. Gallwch chi storio’r olew sy’n weddill yn y rhewgell i’w ddefnyddio yn y dyfodol.
I goginio’r cig oen:
- Paratowch y cig oen: Os yw’ch cig oen heb ei docio, tociwch unrhyw gig a braster oddi ar yr esgyrn (gwyliwch y fideo rysáit i gael arweiniad neu gofynnwch i’ch cigydd wneud hyn ar eich rhan). Cadwch y tocion. Yna gan ddefnyddio cyllell finiog, tynnwch y croen oddi ar y cig oen, gan adael yr haen gwyraidd o fraster. Crafwch y braster mewn patrwm cris-croes. Ysgeintiwch halen môr ar hyd y cig oen, gan ei rwbio i mewn i’r braster sydd wedi’i grafu.
- I wneud y dresin cig oen, rhowch y saws soi, sake a siwgr mewn sosban a’i gymysgu’n dda. Torrwch y tocion cig oen a’u hychwanegu at y sosban, a gadewch i’r cyfan goginio’n ysgafn ar yr hob dros wres isel iawn am ryw 30 munud.
- Cynheswch y popty i 120˚C / 100˚C ffan / Nwy ½.
- Yn y cyfamser, rhowch y cig oen mewn padell ffrio dros wres canolig. Browniwch y cig oen, gyda’r ochr â braster yn wynebu i lawr yn gyntaf, gan roi ychydig o bwysau arno nes ei fod yn frown euraidd. Yna seriwch ddau ben yr oen.
- Rhowch y cig oen mewn hambwrdd popty a’i goginio yn y popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 30-40 munud (mae’r amseriadau hyn ar gyfer cig canolig, lle dylai tymheredd craidd yr oen fod tua 68˚C). Gallwch chi addasu’r amseriad i sut rydych chi’n hoffi i’ch cig oen gael ei goginio.
- Unwaith y bydd y cig oen yn barod, tynnwch ef allan o’r popty a gadewch iddo orffwys mewn lle cynnes.
- Yn y cyfamser, coginiwch y llysiau a chasglu’r garneisiau.
- Rhowch yr asbaragws a’r Tatws Cynnar Sir Benfro mewn stemar a’u coginio dros ddŵr hallt. Coginiwch y tatws am 10-15 munud neu nes eu bod yn dyner, a’r asbaragws am 3-5 munud neu nes eu bod yn dyner.
- Tra bod y llysiau’n coginio, gwnewch y saws mintys. Trowch y finegr mintys wedi caledu allan ar fwrdd torri a’i dorri’n giwbiau, yna ei ychwanegu at gymysgydd trydan. Ychwanegwch y finegr mintys sy’n weddill a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn ac yn sgleiniog. Pasiwch y gymysgedd trwy ridyll mân dros bowlen a’i roi o’r neilltu.
- Ar gyfer y garnais winwnsyn gwyn picl, sleisiwch ganol y winwnsyn yn gylchoedd tenau (tua 2mm o drwch). Trefnwch y cylchoedd o winwns ar blât a chwistrellwch neu eu codi â llwy gyda’r 1-2 llwy de o’r finegr mintys rydych chi wedi’i gadw. Gadewch iddo sefyll am gwpl o funudau, yna brwsiwch yr olew winwns dros ben y cylchoedd o winwns. Rhowch o’r neilltu i farinadu.
- Ar ôl i’r llysiau goginio, gweinwch nhw mewn dysglau ochr ar wahân a rhoi menyn ar eu pennau. Torrwch y dail mintys ffres yn fân a’u hysgeintio dros y tatws. Cadwch yn gynnes.
- Dylai’r cig oen nawr fod wedi gorffwys yn dda. Tynnwch ef allan o’r hambwrdd popty, a gan ddefnyddio cyllell finiog, torrwch y cig i ffwrdd oddi ar yr esgyrn mewn un darn. Dychwelwch y cig oen heb esgyrn i’r hambwrdd a’i symud o gwmpas fel ei fod yn casglu’r holl fraster dros ben o’r hambwrdd.
- Mewn padell ffrio ganolig/poeth, ailgynheswch y cig oen ar bob ochr – bydd hyn yn ei adfywio ac yn ychwanegu rhywfaint o grimprwydd.
- Mae’r cig oen nawr yn barod i’w gerfio. Tociwch unrhyw fraster ychwanegol i ffwrdd a cherfiwch y cig, ar dipyn o groeslin, i dafelli 1cm o drwch. Sesnwch gyda halen môr.
- Trefnwch y cig oen ar blatiau cinio. Rhowch y sleisys o winwns picl ar ben y cig oen, a thaenwch weddill y marinâd dros y winwnsyn a’r cig oen, ac yna un llwy fwrdd o’r saws mintys. Ysgeintiwch fintys ffres wedi’i dorri’n fân a’i orffen gyda’r dresin cig oen drosto.
- Gweinwch gyda’r prydau ochr asbaragws wedi’i stemio a menyn a Thatws Cynnar Sir Benfro.