
120
Amser coginio
20
Amser paratoi
2
Yn gweini
- Rhostio’r ffiled gwddf cig oen tan ei fod yn frown euraidd, yna ychwanegu’r stoc cyw iâr a’i roi mewn sosban bwysedd a’i goginio am 45 – 60 munud.
- Tra bod y gwddf yn coginio, mwydo’r hufen trwy ei ferwi gyda’r teim, rhosmari, garlleg, halen ac ychydig o bupur du.
- Unwaith bod y ffiled gwddf yn frau, ei gadael i oeri ychydig.
- Sleisio’r tatws a dechrau eu gosod mewn haenau mewn arddull dauphinoise gyda’r garlleg gwyllt, hufen wedi mwydo a’r ffiled gwddf. Coginiwch yn y ffwrn am tua awr ar 170°C / Nwy 5.
- Tra bod y tatws yn coginio, tewychu’r stoc (y coginiwyd y ffiled gwddf ynddo) i wneud y saws.
- Pan fod y tatws wedi bod yn coginio am ryw 40 munud gellir dechrau crino’r rag cig oen (sicrhewch bod y cig wedi cyrraedd tymheredd yr ystafell cyn ei goginio). Mae’n rhaid sicrhau eich bod yn tostio’r braster tan ei fod yn lliw euraidd tywyll cyn ei roi yn y ffwrn am ryw 12 munud. Ei adael i orffwys am 10 munud ar ôl coginio.
- Tra bod y rag cig oen yn gorffwys a’r tatws yn oeri ychydig, coginio’r brocoli mewn dŵr berw hallt.
- Dylai’r saws fod wedi tewychu i ansawdd hyfryd erbyn hyn. Gweini a mwynhau.
