- Twymwch yr olew olewydd mewn padell fawr. Ychwanegwch y ciwbiau cig oen a’u brownio. Ychwanegwch y stoc llysiau a’r tatws newydd, y garlleg a’r moron.
- Mudferwch y rhain am 30-40 munud, yna ychwanegwch y ffa gwyrdd, y ffa llydan a’r mintys ffres. Gwthiwch y mintys o dan yr wyneb a choginio’r cyfan am ryw 10 munud, nes bo’r ffa gwyrdd yn frau.
- Gweinwch mewn dysglau a thaenwch lond llwy fechan o besto gwyrdd dros y top. Yna gwasgarwch ddail mintys ffres drostyn nhw a’u gweini gyda darnau mawr o fara brown garw.
Potes Cig Oen Cymru a llysiau
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 50 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 400g ffiled gwddf Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau bychain
- Halen a phupur
- 1 llwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fras
- 1 llwy fwrdd mintys ffres, wedi’i dorri’n fras
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 600ml stoc llysiau
- 12 taten newydd, wedi’u sgwrio a’u haneru
- 2 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u malu
- 3 moronen, wedi’u plicio a’u torri’n siapiau julienne
- 75g ffa gwyrdd, wedi eu torri’n draeanau
- 100g ffa llydan neu ffa soia wedi’u rhewi
- 2 lwy fwrdd mintys ffres, wedi’i dorri’n fras
- 2 lwy fwrdd pesto
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 887 KJ
- Calorïau: 212 kcals
- Braster: 10.8 g
- Sy’n dirlenwi: 2.8 g
- Halen: 1.28 g
- Haearn: 1.53 mg