- Rhowch yr holl sbeisys sych, perlysiau, olew olewydd, halen a phupur i mewn i gymysgydd, cymysgwch am 1 munud. Ychwanegwch y garlleg ffres, lemonau wedi’u cadw, y mintys a’r coriander ffres, cymysgwch eto am tua 30-60 eiliad, nes bod gennych farinâd llyfn trwchus ac aromatig hyfryd.
- Torrwch y ffiled cig oen yn giwbiau 1.5 modfedd. Ychwanegwch y cig oen i bowlen gymysgu ac arllwyswch y marinâd drosto. Cymysgwch y cyfan yn drylwyr a’i orchuddio. Rhowch yn yr oergell am o leiaf 2 awr, ond hyd at 12 awr.
- Cynheswch badell ffrio wrthglud i wres canolig uchel, gyda diferiad o olew olewydd golau. Rhowch y cig oen wedi’i farinadu ar y sgiwerau, a’i serio yn y badell boeth am 2 funud bob ochr, neu nes ei fod yn binc yn y canol.
- Tynnwch y cig allan a’i orffwys am 5 munud cyn ei weini.
Rhywbeth ychwanegol dewisol: Saws Romesco (30 munud)
- Cynheswch y popty i 220˚C / 200˚C ffan / Nwy 7.
- Torrwch y tomatos yn eu hanner a’u rhoi mewn hambwrdd rhostio. Diferwch ychydig o olew olewydd drostynt, ychwanegu halen a phupur a’u rhostio am 20 munud.
- Yn y cyfamser, cynheswch y 50ml o olew mewn padell ffrio nes ei fod yn ganolig-boeth, yna ychwanegwch y bara a’r garlleg. Coginiwch am 2 funud ar bob ochr, neu nes ei fod yn frown euraid. Rhowch o’r neilltu i oeri.
- Pan fydd wedi oeri, trosglwyddwch i brosesydd bwyd neu gymysgydd. Ychwanegwch y tomatos rhost a’r holl gynhwysion sy’n weddill, a’i gymysgu’n biwrî ychydig yn fras (y ffordd draddodiadol), neu nes ei fod yn llyfn os yw’n well gennych. Blaswch ac addaswch y sesnin.
Rhywbeth ychwanegol dewisol: Mojo Verde (20 munud)
- Rhowch yr hadau cwmin mewn padell ffrio sych a’u cynhesu nes eu bod wedi’u tostio. Cadwch nhw i symud oherwydd gallant losgi’n hawdd. Trosglwyddwch nhw i forter a’u malu gyda phestl. Torrwch y shibwns, y garlleg a’r coriander yn fras.
- Rhowch yr holl gynhwysion, ac eithrio’r coriander, mewn cymysgydd a’u cymysgu am 1 munud.
- Nawr dechreuwch ychwanegu’r coriander ychydig ar y tro, gan barhau i gymysgu wrth fynd ymlaen, nes ei fod i gyd wedi’i ychwanegu a’r gwead yn llyfn ac yn hufennog.