
25
Amser coginio
10
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Cynheswch y ffwrn i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
- Rhowch y sbarion cig eidion bourguignon mewn dysgl bopty addas.
- Ar fwrdd â blawd, rholiwch ddigon o grwst pwff i orchuddio’r ddysgl. Torrwch stribedi tenau o grwst a’u gwlychu â dŵr a gwasgu o gwmpas ymyl y ddysgl. Glychwch ymyl y crwst a rhowch y crwst sydd wedi ei rolio dros y bastai. Tociwch o gwmpas y ddysgl cyn selio a chrimpio’r ymylon.
- Ychwanegwch ychydig o laeth at yr wy sydd wedi ei guro a defnyddiwch frws crwst i frwsio dros arwyneb y crwst.
- Rhowch yn y ffwrn am ryw 25 - 30 munud tan fod y crwst yn frown euraidd a’r llenwad yn chwilboeth.
