Mynd i'r cynnwys

Pastai pasta ragu Cig Oen Cymru

Ingredients

  • 450g o friwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri’n fân
  • 2 foronen, wedi eu torri’n fân
  • 2 ffon seleri, wedi eu torri’n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi eu malu
  • 1 llwy fwrdd purée tomato
  • Tun 400g tomatos wedi torri
  • 120ml gwin coch
  • Sbrigyn o rosmari ffres, wedi ei dorri
  • Sbrigyn o deim ffres, wedi ei dorri
  • Pupur a halen
  • 500g tiwbiau pasta byr a llydan (Gragnano neu paccheri neu rigatoni)
  • 75g mozzarella, wedi ei dorri neu berlau mozzarella
  • 75g caws caled Eidalaidd, wedi ei ratio’n fân (fel PDO Pecorino Romano neu PDO Parmigiano-Reggiano)
  • Sbrigynnau o rosmari ffres

60
Cooking Time
25
Prep Time
5+
Serves
  1. Coginiwch y pasta’n rhannol mewn dŵr berw am 5 munud, ei ddraenio a’i roi mewn dŵr oer.
  2. Mewn padell ffriwch y briwgig tan ei fod wedi brownio ychydig. Ychwanegwch y winwnsyn, y moron, y garlleg a’r seleri a ffrio’r cyfan yn ysgafn am 10 munud.
  3. Ychwanegwch y purée tomato, y tomatos wedi torri, y gwin, y perlysiau a’r sesnin a’i ferwi. Mudferwch y cyfan am 20 munud. Ychwanegwch ychydig o stoc cig eidion os yw ychydig yn rhy sych. Oerwch y cyfan ychydig.
  4. Cynheswch y ffwrn i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 5.
  5. Rhowch y bastai gyda’i gilydd mewn dysgl neu dun crwn 20cm. Rhowch lond llwy o’r gymysgedd briwgig wedi ei hoeri yng ngwaelod y tun. Sefwch y tiwbiau pasta i fyny’n unionsyth yn y tun a’u pacio’n dynn, gan lenwi’r tun.
  6. Arllwyswch neu rhowch y ragu cig oen dros y tiwbiau pasta gyda llwy, gan sicrhau bod pob tiwb yn cael ei lenwi. Rhowch ambell belen mozzarella neu ddarnau o mozzarella wedi eu rhwygo i mewn yn rhai o’r tiwbiau.
  7. Rhowch y caws wedi ei ratio ar ben y cyfan, a rhowch ambell sbrigyn o rosmari i mewn ym mhob tiwb.
  8. Rhowch y cyfan yn y ffwrn am ryw 30 munud tan fod y caws yn frown euraidd a’r pasta wedi coginio. Dylai’r pasta fod yn al dente. Gorchuddiwch y cyfan yn ysgafn gyda ffoil, os oes angen, i atal y caws rhag llosgi.
  9. Gweinwch y cyfan gyda salad gwyrdd.
Awgrym: Gellir gwneud y bastai pasta ragu Cig Oen Cymru gydag ysgwydd Cig Oen Cymru wedi ei rhwygo hefyd.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025