- Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y marinâd, ychwanegwch y ciwbiau cig oen a chymysgwch yn dda. Gorchuddiwch a gadewch yn yr oergell am o leiaf 2 awr (gallwch ei adael dros nos).
- Cynheswch yr olew mewn padell neu ddysgl gaserol ac ychwanegwch y winwns a’r sesnin, a’u ffrio’n ysgafn am 10 munud i feddalu.
- Ychwanegwch y ffyn sinamon, malwch y codennau cardamom yn ysgafn a’u hychwanegu at y sosban, eu ffrio am 1 munud yna ychwanegu’r cymysgedd cig oen a’i ffrio am 5 munud, gan gynyddu’r gwres nes bod y cig oen wedi brownio.
- Ychwanegwch y purée tomato, almonau mâl, llaeth cnau coco a’r stoc. Cymysgwch yn dda a dod ag ef i’r berw, ei fudferwi’n ysgafn, gan ychwanegu ychydig o ddŵr os oes angen. Coginiwch nes bod y cig oen yn frau (tua 2 awr).
- Ychydig cyn ei weini, tynnwch y ffyn sinamon a’r codennau cardamom allan ac ychwanegwch y llysiau gwyrdd ac ychydig o goriander wedi’i dorri. Cymysgwch y cyfan a gadewch iddo sefyll am 5 munud.
- Gweinwch gyda reis ac ysgeintiwch goriander a haenau almon drosto.
Pasanda Cig Oen Cymru
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 2 awr 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 650g ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n giwbiau (gallwch chi ddefnyddio ffiledau gwddf)
Ar gyfer y marinâd:
- 1 x 4cm darn sinsir ffres, wedi’i gratio
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 tsili gwyrdd, wedi’i torri’n fân
- 2 lwy fwrdd garam masala
- 1 llwy fwrdd tyrmerig
- 2 lwy de cwmin mâl
- 2 lwy de coriander mâl
- 1 llwy de powdr tsili mwyn
- 150g iogwrt Groegaidd naturiol
Ar gyfer y saws cyrri:
- 2 lwy fwrdd olew
- 2 winwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
- Sesnin
- 6 coden cardamom
- 2 ffon sinamon
- 1 tun llaeth cnau coco
- 1 llwy fwrdd purée tomato
- 80g almonau mâl
- 200ml stoc cyw iâr
- 150g dail sbigoglys neu cêl wedi’i dorri
I weini:
- Reis wedi’i goginio neu naan Peshwari
- Haenau almon wedi’u tostio
- Coriander wedi’i dorri