Mynd i'r cynnwys

Parseli tortilla tikka Cig Oen Cymru

Ingredients

  • 225g stêc coes Cig Oen Cymru PGI, wedi ei sleisio’n denau
  • 1 llwy de olew
  • ½ planhigyn wŷ, wedi ei sleisio’n denau
  • 1 winwnsyn, wedi ei sleisio’n denau
  • 3 madarchen, wedi eu sleisio
  • 1 llwy fwrdd past cyri mwyn
  • 1 llwy fwrdd siytni mango
  • 6 tomato, wedi eu chwarteru
  • Llond llaw o ddail coriander ffres, wedi eu torri
  • 2 tortilla blawd

10
Cooking Time
20
Prep Time
2
Serves
  1. Cynheswch yr olew mewn padell wrthglud neu wok. Ychwanegwch y stribedi cig oen, y planhigyn wŷ, y winwnsyn a'r madarch a’u coginio, gan eu troi nes bod y cig yn frown. Dylai hyn gymryd tua 6 munud.
  2. Ychwanegwch y past cyri a'r siytni mango, trowch a choginiwch am 2 funud arall.
  3. Ychwanegwch y tomato a'r coriander.
  4. Rhowch y gymysgedd yng nghanol y parseli. Rholiwch a mwynhewch!

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025