
Cynhwysion
Ar gyfer y llenwad briwgig:
- 250g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
- 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u torri’n giwbiau mân
- 2 lwy de ras el hanout neu sesnin Morocaidd
- 4 llwy de purée tomato
- 400g tun tomatos wedi eu torri
- 100g couscous sych
- 100g dail spigoglys
- 40g syltanas
- 100g caws ffeta, wedi ei dorri’n giwbiau 1cm
- Halen a phupur du
- Clwstwr bychan o bersli ffres, wedi ei dorri
Ar gyfer y dip planhigyn wy:
- 1 planhigyn wy canolig, wedi ei haneru
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
- 100g iogwrt braster isel
- Llond llaw fach o ddail mintys, wedi ei dorri’n fras
Ar gyfer y crwst ffilo:
- 8 dalen o grwst ffilo
- 25g menyn, wedi ei doddi
- Pinsiad o sinamon mâl
- 30g haenau almwn
50
Amser coginio
30
Amser paratoi
4
Yn gweini
Ar gyfer y llenwad briwgig:
- Cynheswch yr olew mewn padell drom wrthlud a ffrio’r winwnsyn am ychydig funudau nes ei fod yn feddal, heb liw. Ychwanegwch y ras el hanout neu’r sesnin Morocaidd a'i goginio am funud.
- Ychwanegwch y cig oen a'i goginio am 5 munud nes ei fod yn frown. Ychwanegwch y purée tomato a'i goginio am funud arall. Ychwanegwch y tomatos wedi'u torri a mudferwi’r cyfan am 20 munud.
- Ychwanegwch y couscous, y sbigoglys a'r syltanas. Cymysgwch yn dda a thynnu oddi ar y gwres. Gorchuddiwch a gadewch i sefyll am 6 munud i ganiatáu i'r couscous chwyddo.
- Cymysgwch gyda fforc a phlygwch y caws ffeta i mewn. Ychwanegwch halen a phupur a’r persli.
- Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Torrwch y planhigyn wy yn ei hanner, ei sesno a diferu olew drosto. Rhowch y ddau hanner yn ôl at ei gilydd, ei lapio mewn ffoil a phobi’r planhigyn wy yn y ffwrn am 30 munud.
- Tynnwch y planhigyn wy allan o’r ffoil a sgwpio’r cnawd allan gyda llwy fawr. Trosglwyddwch i badell ffrio wedi ei rhagdwymo, a’i droi'n achlysurol am 5 munud nes bod y lleithder dros ben wedi anweddu.
- Cymysgwch y planhigyn wy mewn blendiwr gyda'r iogwrt a’r pherlysiau. Ychwanegwch halen a phupur at eich dant.
- Rhowch ddalen crwst ffilo ar fwrdd torri gyda'r ochr fer agosaf atoch a’i brwshio gyda'r menyn wedi ei doddi. Gorchuddiwch y crwst sy'n weddill gyda lliain sychu llestri i'w gadw'n llaith.
- Rhowch 110g o lenwad ar y crwst a phlygwch drosodd gan sicrhau bod yr ymylon wedi eu selio'n dda gyda'r menyn. Ailadroddwch gyda gweddill y gymysgedd gan ddefnyddio dalen newydd o crwst ffilo ar gyfer pob parsel. Dylai fod wyth parsel gennych chi.
- Rhowch bob parsel ar hambwrdd pobi a brwsio'r topiau gyda'r menyn wedi ei doddi.
- Ysgeintiwch gyda’r sinamon mâl a’r haenau almwn
- Pobwch ar 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 am 15 munud neu nes bod y crwst yn grimp ac yn euraidd. Gweinwch gyda'r dip.
