
Ingredients
- 675g stêc palfais Cig Eidion Cymru PGI, wedi ei dorri’n giwbiau
- Pupur a halen
- 2 lwy fwrdd olew
- 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u sleisio
- 1 pupur coch, wedi ei dorri’n giwbiau mân
- 3 ewin garlleg, wedi eu malu
- Gwraidd sinsir ffres (darn 3cm), wedi ei ratio
- 1 llwy fwrdd tyrmerig mâl
- 1 llwy fwrdd garam masala
- 1 llwy de cwmin mâl
- 1 tsili coch, wedi ei dorri’n fân
- ½ llwy de haenau tsili
- tun 400g o domatos wedi eu torri
- 1 llwy fwrdd purée tomato
- 400ml stoc cig eidion
I weini:
- Iogwrt naturiol
- Dail coriander ffres, wedi eu torri
- Reis
- Salad bychan o domato wedi ei dorri’n giwbiau bychain, ciwcymbr a winwnsyn coch
150
Cooking Time
20
Prep Time
5+
Serves
- Cynheswch yr olew mewn padell fawr neu ddysgl caserol, ychwanegwch y cig eidion a’i ffrio tan ei fod yn frown. Ychwanegwch y pupur a’r halen, y winwns, y pupur, y garlleg, y sinsir a’r sbeisys a’u cymysgu’n ysgafn am funud neu ddau.
- Ychwanegwch y cynhwysion eraill a berwi’r cyfan. Gorchuddiwch gyda chaead neu ffoil a pharhau i goginio ar yr hob neu yn y ffwrn ar 180˚C / ffan 160˚C / Nwy 4. Coginiwch y cyfan a ryw 2 awr a hanner tan fod y cig eidion yn frau. Efallai y bydd angen ychwanegu rhagor o stoc.
- Rhowch y madras i mewn i fowlenni fesul llwyaid, gyda llwyaid o iogwrt ac ychydig o goriander wedi ei dorri drosto. Gweinwch y cyfan gyda reis a salad bychan o domato wedi ei dorri’n giwbiau bychain, ciwcymbr a winwnsyn coch.